Partner Busnes Dealltwriaeth Cynllunio (5997)
Partner Busnes Dealltwriaeth Cynllunio
Disgrifiad Swydd
Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth
Y rôl
Bydd y Partner Busnes Dealltwriaeth Cynllunio yn gweithio’n rhan o dîm newydd o fewn yr adran Cynllunio Strategol. Bydd y tîm hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio data a thystiolaeth i ddarparu dealltwriaeth ystyrlon i gynorthwyo gwneud penderfyniadau ar bob lefel o fewn y Brifysgol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda Chyfadrannau, Sefydliadau ac Adrannau'r Brifysgol ac ar draws yr Adran Cynllunio Strategol i ddehongli data mewnol ac allanol yn effeithiol i yrru gwelliannau a nodi arferion gorau.
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.
Gallai'r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a'i newid i gyd-fynd â newidiadau yn anghenion y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol, ac/neu i ychwanegu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.
Mae tasgau allweddol y tîm newydd hwn yn cynnwys:
- Ymgorffori diwylliant ar draws y brifysgol gan ddefnyddio dirnadaethau data i yrru gwelliant parhaus mewn perthynas â phrofiad myfyrwyr.
- Trwy feithrin gwell dealltwriaeth a defnydd effeithiol o ddata ar draws y Brifysgol, gwella'r gallu i ymdrin â heriau yn y dyfodol ac anghenion esblygol y Brifysgol.
- Defnyddio ystod eang o ffynonellau data i sicrhau bod dewis y Brifysgol o gyrsiau’n ddeniadol i ddarpar fyfyrwyr ac yn gystadleuol yn y farchnad.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd cyfrifoldeb am gyfrifoldebau partneriaeth busnes gydag un neu fwy o gyfadrannau neu sefydliadau yn y brifysgol.
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Ymgymryd a darparu dadansoddiad, dehongliad a dealltwriaeth ystyrlon gan ddefnyddio ystod o ffynonellau data mewnol ac allanol.
- Datblygu gwybodaeth fanwl am nifer o feysydd pwnc academaidd i ategu darpariaeth dealltwriaeth data berthnasol, ystyrlon ac amserol.
- Gweithio gydag adrannau a chyfadrannau i ymgorffori'r defnydd o ddata a dealltwriaeth i wneud penderfyniadau gweithredol a strategol.
- Gweithio'n agos gyda Phartneriaid Busnes o swyddogaethau gwasanaeth proffesiynol eraill ledled y Brifysgol i gefnogi sefydliadau a chyfadrannau i ymgymryd â newid a chyflawni amcanion a nodau.
- Datblygu dealltwriaeth helaeth o ffynonellau data y tu allan i'r Brifysgol i ganiatáu swyddogaeth sganio’r gorwel effeithiol i nodi cyfleoedd a heriau yn y dyfodol.
- Datblygu cyfres o adroddiadau a/neu ddelweddau sydd wedi'u cynllunio i ddarparu dealltwriaeth a monitro cynnydd tuag at nodau strategol.
- Gan ddefnyddio metrigau dangosyddion perfformiad, gweithio gyda chydweithwyr ar brosiectau gwella sy'n effeithio ar bob lefel o brofiad y myfyriwr.
- Gweithio gydag adrannau a chyfadrannau i sicrhau bod portffolios cyrsiau pwnc yn ymateb i ofynion y farchnad, yn ddeniadol i ddarpar fyfyrwyr ac yn gystadleuol o fewn y farchnad.
- Gweithio gydag adrannau a chyfadrannau i ddatblygu syniadau a mentrau i fanteisio ar gyfleoedd newydd.
- Cynrychioli'r adran Cynllunio Strategol, gan gymryd rôl weithredol mewn cyfarfodydd a digwyddiadau amrywiol trwy hysbysu a chymryd rhan mewn trafodaethau, sicrhau ymrwymiad i ddatblygu camau gweithredu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am ganlyniadau'r cyfarfodydd.
- Cydymffurfio â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR ym mhob arfer gwaith gan gynnal cyfrinachedd, uniondeb, argaeledd, cywirdeb a diogelwch gwybodaeth fel y bo'n briodol. Cymryd cyfrifoldeb personol am yr holl ddata personol o fewn eu hamgylchedd gwaith.
Cyfrifoldebau Ychwanegol
Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.
Cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni ar lefel y brifysgol yn ôl y cyfarwyddyd, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n gymesur â'r rôl, fel y'u pennir i chi gan y rheolwr llinell.
Dangos hyblygrwydd trwy gynorthwyo cydweithwyr mewn cyfnodau pan fo’r llwyth gwaith yn drwm, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau allweddol y brifysgol megis diwrnodau agored a seremonïau graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau.
Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith.
Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd, gan fynd ati’n weithredol i hybu iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion a chyfranogiad cyfrifol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd.
- Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd.
- Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff trwy ddefnyddio Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol arall sy’n cyfateb i radd y swydd.
Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon.
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.
- Bod yn aelod hyblyg o'r tîm, yn cefnogi cydweithwyr ar adegau pan fo’r llwyth gwaith a’r pwysau ar eu huchaf, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau’r brifysgol e.e. y diwrnodau agored, y graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith.
- Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
- Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r rôl, gan hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion cyfrifol a chyfranogi’n briodol.
Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon.
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Hanfodol
- Gradd mewn pwnc dadansoddi.
- Profiad o ddehongli data i ddarparu dealltwriaeth ystyrlon sy'n hygyrch i arbenigwyr nad ydynt yn arbenigo ym maes data.
- Profiad o gynhyrchu delweddau a dangosfyrddau i gefnogi’r defnydd o ddealltwriaeth data
- Profiad o hyrwyddo'r defnydd o ddealltwriaeth data i lywio a chefnogi prosesau gwella parhaus.
- Prawf o’r gallu i adeiladu cysylltiadau effeithiol ar bob lefel, ar draws gwahanol adrannau a swyddogaethau.
- Dealltwriaeth o'r angen i gofnodi ac ymdrin â data mewn modd sensitif ac yn unol â rheoliadau statudol Prifysgol Aberystwyth e.e. Bil Diogelu Data, GDPR a’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig.
- Gwybodaeth gref am fathemateg ac ystadegaeth, gyda phrofiad o'u defnyddio wrth ddadansoddi data.
- Gallu gweithio'n gywir o dan bwysau a rheoli llwyth gwaith amrywiol a heriol a bodloni terfynau amser y cytunwyd arnynt.
- Gallu llunio dadansoddiadau ac adroddiadau sy'n gryno ac addas i'w dibenion.
- Gallu trefnu a dadansoddi data a gwybodaeth gymhleth, a'u cyflwyno ar ffurf glir a chryno.
- Medrau cyfathrebu ardderchog, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Yn gallu deall natur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o’r gweithdrefnau sydd ar waith.
Dymunol
- Gradd bellach neu gymwysterau penodol mewn Mathemateg neu Ystadegau neu Wyddor Data (neu faes cysylltiedig).
- Profiad o ddefnyddio data i fireinio a datblygu portffolios cwrs.
- Lefel Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig B2.*
*Gellir gweld manylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/
Sut i wneud cais
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Buddion
- Polisi gweithio’n hyblyg
- 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
- Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
- Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
- Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
- Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
- Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
- Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
- Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.
Darllenwch ymlaen
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Fisa Cyflogaeth
Rydym yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol sy'n gymwys i gael nawdd o dan y Llwybr Gweithiwr Medrus.
O dan y system bwyntiau, mae'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus. Sylwch mai dim ond y Dystysgrif Nawdd ar gyfer unrhyw fisâu cyflogaeth y bydd y Brifysgol yn cyfrannu tuag ati, ac na fydd yn cyfrannu tuag at dalu'r fisa cyflogaeth ar gyfer yr ymgeisydd sy’n cael cynnig y swydd, nac unrhyw ddibynyddion.
Bydd angen o leiaf 70 pwynt ar unrhyw ddarpar ymgeiswyr sy'n dod i weithio i Brifysgol Aberystwyth o dan y Llwybr Gweithiwr Medrus.
Cyfrifir y pwyntiau fel a ganlyn:
|
|
System Bwyntiau y Llwybr Gweithiwr Medrus |
Pwyntiau |
A’i bodlonwyd? |
|
Meini Prawf Gorfodol (50 pwynt) |
Cynnig swydd gan noddwr trwyddedig yn y DU |
20 pwynt |
Do |
|
|
Mae'r swydd yn uwch nag isafswm lefel y sgiliau sydd eu hangen i gael nawdd |
20 pwynt |
Do |
|
|
Dylai’r ymgeisydd a benodir fedru’r Saesneg i safon briodol* |
10 pwynt |
Do |
|
|
|
|
Cyfanswm = 50 pwynt |
|
Meini prawf y gellir eu cyfnewid (yn dibynnu ar yr ymgeisydd a benodir) |
Mae'r cyflog yn uwch na’r trothwy isaf |
20 pwynt |
|
|
|
Mae gan yr ymgeisydd PhD mewn pwnc sy'n berthnasol i'r swydd. |
10 pwynt |
|
|
|
Mae gan yr ymgeisydd PhD mewn pwnc STEM sy'n berthnasol i'r swydd |
20 pwynt |
|
|
|
Mae'r swydd a hysbysebwyd ar y Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder (SOL) |
20 pwynt |
|
*Diffinnir ‘safon briodol’ fel a ganlyn:
- Dinesydd gwlad lle mai Saesneg yw prif iaith y mwyafrif
- Bod â gradd academaidd a astudiwyd drwy gyfrwng y Saesneg (os yw'n radd dramor, rhaid iddi fod wedi’i dilysu gan NARIC)
- Cwblhau a phasio prawf iaith Saesneg ar Lefel B1 neu uwch.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler: https://www.gov.uk/skilled-worker-visa