Rheolwr Data ac Adrodd (5995)

Rheolwr Data ac Adrodd

Athrofa/Adran
Cynllunio a Llywodraethiant
Graddfa Cyflog
£47,389.29 - £56,535.44 y flwyddyn (pro rata)
Math o Gytundeb
Parhaol, Llawn Amser
Oriau Wythnosol
36.5
Fisa Cyflogaeth
Noddedig
Dyddiad Agor
20/10/2025
Dyddiad Cau
02/11/2025
Rhif Cyfeirnod
5995
Dogfennau

Disgrifiad Swydd

Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth

Y rôl

I wneud ymholiad anffurfiol cysylltwch â Helen Eustace yn hee27@aber.ac.uk.  

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.

Gallai'r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a'i newid i gyd-fynd â newidiadau yn anghenion y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol, ac/neu i ychwanegu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.  

Bydd y Rheolwr Data ac Adrodd yn rheoli tîm bach sydd â'r dasg o gynhyrchu data ac adrodd i gefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau strategol a rheoli perfformiad ar draws y Brifysgol.

Un o swyddogaethau allweddol y rôl hon fydd ymgymryd â'r prosesau sydd eu hangen i ganiatáu cyflwyno ffurflenni data statudol a rheoleiddiol sy'n ofynnol gan sefydliadau megis yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a Chomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru (Medr) yn gywir ac yn brydlon. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am gydlynu ffurflenni gwybodaeth i dablau cynghrair a gosod, trefnu a goruchwylio arolygon adborth myfyrwyr a graddedigion a reolir yn ganolog.


Un sbardun allweddol i'r tîm yw cynyddu hygyrchedd ac argaeledd data ar draws y sefydliad, bydd hyn yn cynnwys safoni’r gwaith o adrodd, dylunio a chynnal delweddau data ystyrlon a gweithio ar brosiectau i wella llywodraethu data.

Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio ar draws cylch gwaith llawn y tîm data ac adrodd a chefnogi'r Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol.

Cyfrifoldebau Allweddol:

  1. Dethol, trawsnewid a darparu delweddau a dadansoddiadau ar ystod o setiau data mewnol ac allanol sy'n ymdrin â phob cam o gyfnod y myfyrwyr yn y brifysgol yn ogystal â data staff.
  2. Rheoli llwyth gwaith y tîm Data ac Adrodd i sicrhau data ac adrodd cywir a phrydlon er mwyn cynorthwyo adrannau academaidd ac adrannau gwasanaethau proffesiynol, y Weithrediaeth a Chyngor y Brifysgol i wneud penderfyniadau, cynllunio, rhag-weld a sbarduno gwelliannau ym mherfformiad y sefydliad. 
  3. Bod â chyfrifoldeb cyffredinol am ffurflenni data statudol a rheoleiddiol. Bydd hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) proffil Darparwr HESA, ffurflen Myfyrwyr HESA, ffurflen Alltraeth Cyfanredol HESA, ffurflen Staff HESA, poblogaethau Canlyniadau Graddedigion, DiscoverUni yn ogystal â ffurflenni data a gwiriadau sy'n ofynnol gan Medr a sefydliadau statudol a rheoleiddiol eraill.
  4. Arwain y gwaith o ddatblygu, ymgorffori ac adrodd ar fetrigau Dangosyddyddion Perfformiad ar draws y sefydliad.
  5. Goruchwylio’r gwaith o gydlynu ffurflenni gwybodaeth ar gyfer tablau cynghrair gan gynnwys QS world rankings, People and Planet, Complete University Guide, WhatUni, a'r rhai a gyhoeddir gan bapurau newydd cenedlaethol i sicrhau bod y Brifysgol yn cael ei chynrychioli yn y ffordd orau bosibl.
  6. Rheoli darpariaeth arolygon mewnol a chyfleoedd adborth megis Arolygon ar Brofiad Myfyrwyr.
  7. Cynhyrchu adroddiadau a delweddau data mewn fformat y gellir ei ddehongli'n hawdd ac ystyrlon gan ystod o ddefnyddwyr.
  8. Arwain ar brosiectau sy'n ceisio datblygu a gwella pob agwedd ar lywodraethu data.
  9. Gan weithio ar y cyd â'r Partneriaid Busnes Dealltwriaeth Cynllunio a'r Cyfarwyddwr Cynllunio Strategol, datblygu cyfres allweddol o fetrigau sy'n darparu gwybodaeth fonitro ystyrlon ac amserol ar gynlluniau a addysgir.
  10. Cynrychioli'r adran Cynllunio Strategol, gan gymryd rôl weithredol mewn cyfarfodydd a digwyddiadau amrywiol trwy hysbysu a chymryd rhan mewn trafodaethau, sicrhau ymrwymiad i ddatblygu camau gweithredu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am ganlyniadau'r cyfarfodydd.
  11. Cydymffurfio â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR ym mhob arfer gwaith gan gynnal cyfrinachedd, uniondeb, argaeledd, cywirdeb a diogelwch gwybodaeth fel y bo'n briodol. Cymryd cyfrifoldeb personol am yr holl ddata personol o fewn eu hamgylchedd gwaith.

Cyfrifoldebau Ychwanegol

Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd. 

Cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni ar lefel y brifysgol yn ôl y cyfarwyddyd, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n gymesur â'r rôl, fel y'u pennir i chi gan y rheolwr llinell.

Dangos hyblygrwydd trwy gynorthwyo cydweithwyr mewn cyfnodau pan fo’r llwyth gwaith yn drwm, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau allweddol y brifysgol megis diwrnodau agored a seremonïau graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau.

Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith. 
 
Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill. 

Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd, gan fynd ati’n weithredol i hybu iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion a chyfranogiad cyfrifol.  

Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon.

Cyfrifoldebau Ychwanegol (Graddau 6-8)

  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd. 
  • Cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni ar lefel y brifysgol yn ôl y cyfarwyddyd, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n gymesur â'r rôl, fel y'u pennir i chi gan y rheolwr llinell. 
  • Dangos hyblygrwydd trwy gefnogi cydweithwyr mewn cyfnodau pan fo’r llwyth gwaith yn drwm, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau allweddol y brifysgol megis diwrnodau agored a seremonïau graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau. 
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith. 
  • Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
  • Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r rôl, gan hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion cyfrifol a chyfranogi’n briodol.  

Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon. 

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol

Hanfodol 

  1. Gradd mewn pwnc dadansoddi.
  2. Profiad o weithio yn rhan o dîm o arbenigwyr data yn y sector Addysg Uwch
  3. Profiad sylweddol o ddefnyddio cymwysiadau ystadegol/modelu (e.e. Excel) gan gynnwys dehongli canlyniadau
  4. Profiad o gynhyrchu delweddau data a dangosfyrddau data
  5. Profiad sylweddol o gynhyrchu ffurflenni statudol neu reoleiddiol yn y sector Addysg Uwch, er enghraifft ffurflenni HESA myfyrwyr neu staff
  6. Gwybodaeth helaeth am systemau cronfa ddata cymhleth ar lefel defnyddiwr a damcaniaeth gweinyddu cronfa ddata ochr ôl (back-end)
  7. Tystiolaeth o ddarparu cyfraniadau ystyrlon i brosiectau lle mae'r defnydd o ddata wedi arwain at newid i broses, polisi neu weithred sefydledig
  8. Dealltwriaeth o'r angen i gofnodi ac ymdrin â data mewn modd sensitif ac yn unol â rheoliadau statudol Prifysgol Aberystwyth e.e. Bil Diogelu Data, GDPR a’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig.
  9. Gwybodaeth gref am fathemateg ac ystadegaeth, gyda phrofiad o'u defnyddio wrth ddadansoddi data
  10. Gallu gweithio'n gywir o dan bwysau a rheoli llwyth gwaith amrywiol a heriol a bodloni terfynau amser y cytunwyd arnynt.
  11. Y gallu i reoli llwyth gwaith tîm bach gyda chyfuniad o ddyddiadau cau mewnol ac allanol
  12. Gallu trefnu a dadansoddi data a gwybodaeth gymhleth, a'u cyflwyno ar ffurf glir a chryno.
  13. Medrau cyfathrebu ardderchog, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  14. Yn gallu deall natur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o’r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi gweithio’n ddwyieithog.

Manteisiol

  1. Gradd bellach neu gymwysterau penodol mewn Mathemateg neu Ystadegau neu Wyddor Data (neu faes cysylltiedig).
  2. Gwybodaeth a phrofiad o reoli arbenigwyr data yn y sector Addysg Uwch
  3. Profiad o weithio gyda chydweithwyr ar draws y brifysgol i ddarparu data ar gyfer cefnogi'r gyllideb a phrosesau rhagfynegi
  4. Cyfrifoldeb blaenorol am ffurflenni data statudol a rheoleiddiol.
  5. Profiad o arwain ar brosiectau sydd wedi defnyddio data i ysgogi newid
  6. Profiad o weithio mewn swydd gyffelyb

*Gellir gweld manylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/ 

Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk.   Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Buddion

  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
  • Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
  • Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
  • Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
  • Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
  • Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
  • Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
  • Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws. 

Darllenwch ymlaen

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Fisa Cyflogaeth

Rydym yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol sy'n gymwys i gael nawdd o dan y Llwybr Gweithiwr Medrus.

O dan y system bwyntiau, mae'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus. Sylwch mai dim ond y Dystysgrif Nawdd ar gyfer unrhyw fisâu cyflogaeth y bydd y Brifysgol yn cyfrannu tuag ati, ac na fydd yn cyfrannu tuag at dalu'r fisa cyflogaeth ar gyfer yr ymgeisydd sy’n cael cynnig y swydd, nac unrhyw ddibynyddion.

Bydd angen o leiaf 70 pwynt ar unrhyw ddarpar ymgeiswyr sy'n dod i weithio i Brifysgol Aberystwyth o dan y Llwybr Gweithiwr Medrus.

Cyfrifir y pwyntiau fel a ganlyn:

 

System Bwyntiau y Llwybr Gweithiwr Medrus

Pwyntiau

A’i bodlonwyd?

Meini Prawf Gorfodol (50 pwynt)

Cynnig swydd gan noddwr trwyddedig yn y DU

20 pwynt

Do

 

Mae'r swydd yn uwch nag isafswm lefel y sgiliau sydd eu hangen i gael nawdd

20 pwynt

Do

 

Dylai’r ymgeisydd a benodir fedru’r Saesneg i safon briodol*

10 pwynt

Do

 

 

 

Cyfanswm = 50 pwynt

Meini prawf y gellir eu cyfnewid (yn dibynnu ar yr ymgeisydd a benodir)

Mae'r cyflog yn uwch na’r trothwy isaf

20 pwynt

 

 

Mae gan yr ymgeisydd PhD mewn pwnc sy'n berthnasol i'r swydd.

10 pwynt

 

 

Mae gan yr ymgeisydd PhD mewn pwnc STEM sy'n berthnasol i'r swydd

20 pwynt

 

 

Mae'r swydd a hysbysebwyd ar y Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder (SOL)

20 pwynt

 

*Diffinnir ‘safon briodol’ fel a ganlyn:

  • Dinesydd gwlad lle mai Saesneg yw prif iaith y mwyafrif
  • Bod â gradd academaidd a astudiwyd drwy gyfrwng y Saesneg (os yw'n radd dramor, rhaid iddi fod wedi’i dilysu gan NARIC)
  • Cwblhau a phasio prawf iaith Saesneg ar Lefel B1 neu uwch.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler:  https://www.gov.uk/skilled-worker-visa