Swyddog Cefnogi Rhaglen Fyd-eang (5928)
Swyddog Cefnogi Rhaglen Fyd-eang
Disgrifiad Swydd
Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth
Y rôl
Mae Prifysgol Aberystwyth yn chwilio am Swyddog Cymorth Rhaglenni Byd-eang i weithio o fewn y tîm Cysylltiadau Byd-eang i helpu i reoli'r gwaith gweinyddol sy’n ymwneud â symudedd myfyrwyr rhyngwladol (myfyrwyr sy'n dod i mewn ac yn mynd allan) a’r ffrydiau cyllido cysylltiedig.
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd sydd â threfniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd neu yn ystod y tymor yn unig.
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Pamela Heidt (pah21@aber.ac.uk).
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw’r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i http://jobs.aber.ac.uk. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, yn enwedig y rhai heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys, ymhlith eraill, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, ac ymgeiswyr ag anableddau.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog sy'n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac yn ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.
Yn atebol i Reolwr Gweithrediadau Cyfleoedd Byd-eang:
- Cynorthwyo’r tîm Rhaglenni Byd-eang i reoli data sy'n ymwneud â symudedd allan (myfyrwyr Aberystwyth) a symudedd i mewn (myfyrwyr cyfnewid / myfyrwyr sy’n astudio dramor / myfyrwyr ysgolion haf o sefydliadau partner).
- Cynorthwyo’r tîm Rhaglenni Byd-eang i weinyddu cyllid y cynllun Taith a’r cynllun Turing a fydd yn cefnogi symudedd myfyrwyr.
- Cynorthwyo’r tîm Rhaglenni Byd-eang i weinyddu benthyciadau myfyrwyr yr Unol Daleithiau a rhoi’r adroddiadau angenrheidiol ar gynnydd myfyrwyr.
- Cynorthwyo’r tîm Rhaglenni Byd-eang gyda’r gwaith gweinyddu sy'n gysylltiedig â ffrydiau cyllido eraill megis ysgoloriaethau allanol: Chevening, y Gymanwlad, Marshall Papworth ac eraill.
- Cynorthwyo’r tîm Rhaglenni Byd-eang i baratoi ar gyfer gweithgareddau’r Ysgol Haf.
- Diweddaru tudalennau gwe sy'n berthnasol i weithgareddau'r tîm Rhaglenni Byd-eang.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd.
- Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn i gyfrifoldebau'r swydd.
- Unrhyw ddyletswydd resymol arall sy’n cyfateb i radd y swydd.
Cyfrifoldebau Ychwanegol
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.
- Bod yn aelod hyblyg o'r tîm, yn cefnogi cydweithwyr ar adegau pan fo’r llwyth gwaith a’r pwysau ar eu huchaf, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau’r brifysgol e.e. y diwrnodau agored, y graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith.
- Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
- Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r rôl, gan hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion cyfrifol a chyfranogi’n briodol.
- Mae gwaith corfforol trwm yn rhan o’r swydd hon, ac felly mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn ddigon iach a ffit. Gallai'r penodiad i'r swydd fod yn amodol ar asesiad ffitrwydd boddhaol.
Cyfrifoldebau Ychwanegol- (Graddau 1-5)
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.
- Bod yn aelod hyblyg o'r tîm, yn cefnogi cydweithwyr ar adegau pan fo’r llwyth gwaith a’r pwysau ar eu huchaf, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau’r brifysgol e.e. y diwrnodau agored, y graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith.
- Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
- Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r rôl, gan hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion cyfrifol a chyfranogi’n briodol.
Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon.
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
- Addysg i lefel gradd neu gyfwerth.
- Sgiliau Llythrennedd a Rhifedd: Sgiliau rhifedd cryf; prawf o’r gallu i roi sylw i fanylion wrth ddarllen / ysgrifennu / a phrawfddarllen geiriau a rhifau
- Llythrennedd Digidol: Y gallu i ddefnyddio offer a thechnolegau digidol priodol i gydweithio ac i rannu data, gwybodaeth a chynnwys digidol; defnyddio taenlenni yn fedrus yn ogystal â chronfeydd data a datrysiadau TG ar gyfer tasgau gweinyddol
- Sgiliau Gweinyddu a Threfnu: Sylw rhagorol i fanylion; Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o systemau gweinyddol ar yr un pryd; Profiad o reoli tasgau sy’n gwrthdaro.
- Sgiliau Ymdrin â Phobl: Profiad o weithio o fewn tîm ac ar ei liwt ei hun.
- Gallu deall natur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o’r trefniadau sydd ar waith i gefnogi gweithio yn ddwyieithog.
Dymunol
- Sgiliau uwch wrth ddefnyddio taenlenni, yn gallu sefydlu taenlenni y tu hwnt i fformiwlâu sylfaenol.
- Gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio systemau a phrosesau'n ymwneud â myfyrwyr ym maes Addysg Uwch
- Yn hyderus a chydwybodol gydag empathi tuag at gydweithwyr a rhanddeiliaid ac yn agored â hwy.
*Gellir gweld manylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/
Sut i wneud cais
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Buddion
- Polisi gweithio’n hyblyg
- 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
- Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
- Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
- Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
- Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
- Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
- Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
- Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.
Darllenwch ymlaen
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Fisa Cyflogaeth
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).