Swyddog Cyfraniadau Blaenllaw (5778)

Swyddog Cyfraniadau Blaenllaw

Athrofa/Adran
Datblygu a Chysylltiadau Alumni
Graddfa Cyflog
£25,742 - £28,759 y flwyddyn
Math o Gytundeb
Parhaol, Llawn Amser
Oriau Wythnosol
36.5
Fisa Cyflogaeth
Di-nodded
Dyddiad Agor
09/06/2025
Dyddiad Cau
29/06/2025
Rhif Cyfeirnod
5778
Dogfennau

Disgrifiad Swydd

Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth

Y rôl


Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni (DARO) yn gyfrifol am gydlynu rhoddion dyngarol, ymgysylltu â chyn-fyfyrwyr a chefnogwyr, a chyfathrebu â chyn-fyfyrwyr ar ran y Brifysgol. Mae DARO yn gweithio gydag adrannau academaidd, canolfannau ymchwil a sefydliadau ac adrannau proffesiynol i gysylltu â thros 100,000 o gyn-fyfyrwyr a chefnogwyr ledled y byd.

Mae'r rôl newydd hon yn gyfle gwych i'r ymgeisydd cywir gychwyn neu ddatblygu gyrfa yn y sector codi arian gyda chefnogaeth ac arweiniad y swyddfa DARO, wrth i ni anelu i adeiladu cymuned gryfach o gyn-fyfyrwyr byd-eang, trwy godi arian, gwirfoddoli ac ymgysylltu.

Yn atebol i’r Rheolwr Rhoddion Dyngarol, bydd deiliad y swydd yn cefnogi cyflwyno cynlluniau integredig i gynyddu nifer yr unigolion sy'n dewis cyfrannu i'r brifysgol ar y lefel £1-10k+. Byddant yn meithrin perthynas â phortffolio o aelodau’r gymuned o gyn-fyfyrwyr, yn ogystal â goruchwylio rhaglen o ymgysylltu â rhoddwyr a stiwardiaeth drwy Gylch Cyfrannu’r Is-ganghellor, er mwyn cynyddu nifer a gwerth yr anrhegion a roddir i'r brifysgol.

Bydd deiliad y swydd yn unigolyn dymunol, rhagweithiol a threfnus iawn gyda diddordeb gwirioneddol mewn codi arian a dawn i feithrin perthynas ar bob lefel.

Byddai'r rôl yn addas i unigolyn sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd prysur sy'n canolbwyntio ar dargedau gyda sgiliau trosglwyddadwy o sectorau megis cyfathrebu, digwyddiadau, marchnata, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymgyrchu, gwerthu, datblygu busnes, cysylltiadau cyhoeddus, adnoddau dynol neu wasanaeth cwsmeriaid.

I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Lyndsey Stokes, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni trwy e-bostio lyr6@aber.ac.uk.

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.

• Rheoli portffolio o unigolion sy’n gallu rhoi £1-10k+ i’r brifysgol, cynnal perthnasoedd, paratoi cynlluniau i reoli rhagolygon ar gyfer pob unigolyn a datblygu strategaethau clir i feithrin y cysylltiadau hynny a sicrhau eu cefnogaeth ddyngarol.
• Arwain y gweithgareddau gweinyddu a stiwardiaeth sy'n gysylltiedig â Chylch Cyfrannu’r Is-ganghellor, gan gynnwys nodi cyfleoedd i gynyddu rhoddion gan aelodau.
• Cydweithio'n agos gydag aelodau uwch o staff i ddod â darpar roddwyr i sefyllfa lle gellir gofyn iddynt am rodd flaenllaw.
• Sicrhau cyfraniadau dyngarol pedwar a phum ffigwr ar ran y brifysgol.
• Gweithio gyda chydweithwyr yn y Tîm Rhoddion Dyngarol i adnabod darpar chymynwyr.
• Datblygu a chyflwyno cynigion deniadol a chreadigol trwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb yng ngwledydd Prydain, a thrwy gyflwyniadau, digwyddiadau codi arian, a chyhoeddiadau ysgrifenedig.
• Cysylltu ag adrannau academaidd, adrannau gwasanaeth, a myfyrwyr i drafod, ac ennill ac ategu eu cefnogaeth hwy i gynlluniau meithrin cysylltiadau a chodi arian.
• Darparu briffiau i'r Rheolwyr a'r Cyfarwyddwr ar roddwyr unigol i gefnogi eu perthynas a'u cynlluniau codi arian ar gyfer cyn-fyfyrwyr allweddol.
• Drafftio gohebiaeth at roddwyr a darpar roddwyr ar gyfer y Rheolwr a'r Cyfarwyddwr ac ar gyfer staff uwch eraill gan gynnwys yr Is-ganghellor.
• Ymateb i ymholiadau drwy’r post, e-bost a ffôn gan roddwyr a darpar roddwyr a'u prosesu'n effeithlon i'r safonau uchaf o ofal rhoddwyr ac mewn ffyrdd sy'n gwella perthnasoedd a chysylltiadau codi arian.
• Sefydlu ffyrdd creadigol, ysbrydoledig a chost-effeithiol o ddiolch a chydnabod cyfraniad rhoddwyr blaenllaw i'r Brifysgol ac o stiwardio perthynas yr adran â nhw.
• Sicrhau bod modd cyfrif yn gywir am incwm o roddion, ei fod yn cael ei gysoni â'r tîm Gwasanaethau Datblygu, a’i fod yn cael ei wario’n unol â dymuniadau’r rhoddwr ac yn unol â chyfraith elusennau.
• Cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
• Bod yn ymrwymedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut y mae'n gweithredu o fewn i gyfrifoldebau'r swydd.
• Ymroi i’ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff, trwy ddefnyddio trefn Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
• Unrhyw ddyletswydd resymol arall sy’n cyfateb i radd y swydd.

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol

Hanfodol

1. Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd codi arian neu amgylchedd arall sy’n canolbwyntio ar dargedau, megis cyfathrebu, digwyddiadau, marchnata, ymgysylltu â rhanddeiliaid, rheoli prosiectau, ymgyrchu, gwerthu, datblygu busnes, cysylltiadau cyhoeddus, adnoddau dynol, gwasanaeth cwsmeriaid neu rolau eraill tebyg.
2. Profiad o gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda rhoddwyr uchel eu proffil.
3. Profiad o gyflawni targedau ariannol/anariannol penodol.
4. Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad Diogelu Data a Chodi Arian.
5. Dawn gyfathrebu ragorol a deniadol, ar lafar ac yn ysgrifenedig; gallu i deilwra cynnwys ac arddull ysgrifenedig a llafar i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
6. Cymeriad cryf sy’n gallu cael dylanwad a meithrin perthynas, rhaid bod yn gyfathrebwr rhagorol a medrus.
7. Gallu blaenoriaethu, gweithio'n hyblyg a chadw trefn ar aml flaenoriaethau o dan bwysau amser.
8. Gallu ennyn ymddiriedaeth a hyder yn gyflym trwy effeithiolrwydd personol, grym perswâd, sensitifrwydd, crebwyll, doethineb a disgresiwn, a chyfathrebu’n addas yn ôl y sefyllfa.
9. Bod mewn sefyllfa i deithio'n rheolaidd yng ngwledydd Prydain a mynd i weithgareddau y tu hwnt i oriau swyddfa.
10. Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel B2.*

Dymunol

11. Cymhwyster codi arian neu reoli prosiect
12. Profiad o weithio mewn sefydliad Addysg Uwch
13. Profiad o gynorthwyo i gynllunio a darparu gweithgareddau ar gyfer stiwardio rhoddwyr.
14. Gwybodaeth am egwyddorion codi arian o ran rhoddion blaenllaw/sylfaenol, gan gynnwys ymddiriedolaethau, digwyddiadau, a rhoddion unigol.
15. Gwybodaeth am gronfa ddata berthynol Raisers Edge
16. Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel C1.*

*Cewch ragor o wybodaeth am lefelau'r iaith Gymraeg yma:

https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/

Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk.   Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Buddion

  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
  • Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
  • Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
  • Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
  • Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
  • Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
  • Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
  • Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws. 

Darllenwch ymlaen

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Fisa Cyflogaeth

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).