Cyfieithydd (Cyfieithu ar y Pryd / Testun) (6399)
Cyfieithydd (Cyfieithu ar y Pryd / Testun)
Disgrifiad Swydd
Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth
Y rôl
Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn dymuno penodi cyfieithydd i ymuno â thîm yr Uned Gyfieithu i ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun i’r Brifysgol, ynghyd â chyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd prif bwyllgorau’r Brifysgol a chyfarfodydd amrywiol eraill. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu’n broffesiynol i gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Mae’r swydd yn un rhan amser (21.9awr) a bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras, disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tuag 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd. Ceir hyblygrwydd o ran yr union batrwm gwaith ac mae’r swydd yn addas ar gyfer gweithio yn rhannol o gartref.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dylan Hughes ar dyh8@aber.ac.uk
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.
- Darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd, gwasanaethau proffesiynol a phrif bwyllgorau’r Brifysgol.
- Bydd gofyn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys cyfarfodydd a chyfweliadau a drefnir gan Adnoddau Dynol, cyfarfodydd un i un rhwng staff a myfyrwyr, seminarau a darlithoedd cyhoeddus.
- Darparu gwasanaeth cyfieithu testun sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol.
- Ymgyfarwyddo â systemau ac offer cyfieithu ar y pryd.
- Bod yn barod i weithio’n hyblyg yn ôl yr angen (e.e. mewn lleoliadau eraill ac eithrio campws Prifysgol Aberystwyth)
- Defnyddio system Cof Cyfieithu a system Llif Gwaith yr Uned Gyfieithu yn effeithiol.
- Cydweithio â thîm o gyfieithwyr i sicrhau bod y gwaith cyfieithu testun yn cael ei flaenoriaethu’n effeithiol a bod y gwasanaeth yn un prydlon.
- Cydweithio er mwyn cwrdd â thargedau gwaith yr Uned.
- Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd sensitif eu natur a deall pwysigrwydd cyfrinachedd mewn sefyllfaoedd o’r fath.
- Cyfieithu dogfennau sensitif a chyfrinachol eu cynnwys a deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymdrin â’r dogfennau hyn.
- Sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir a defnyddio terminoleg gywir a chyson yn unol ag arfer y Brifysgol.
- Sicrhau bod ceisiadau cyfieithu testun yn cael eu dychwelyd yn unol â’r amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Ymgynghori â chwsmeriaid am eu hanghenion cyfieithu ar y pryd, e.e. nifer y bobl a fydd yn bresennol, faint o offer fydd eu hangen, natur ac amseru’r digwyddiad.
- Ymgynghori â chwsmeriaid am gynnwys dogfennau a anfonir i’w cyfieithu ac am ddyddiadau dychwelyd gwaith.
- Cydweithio’n effeithiol â chydweithwyr yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac â staff a myfyrwyr ar draws holl adrannau’r Brifysgol gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ieithyddol briodol o ansawdd uchel.
- Ymrwymo i ofynion Safonau’r Gymraeg.
- Cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymroi i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, a deall sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Ymroi i’ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol arall sy'n cyfateb i radd y swydd.
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Hanfodol
- Gradd mewn pwnc perthnasol.
- Profiad helaeth o gyfieithu ar y pryd.
- Profiad helaeth o gyfieithu pob math o destunau yn enwedig testunau academaidd, gweinyddol a deunyddiau hyrwyddo a marchnata.
- Profiad o drin testunau a sefyllfaoedd cyfrinachol.
- Profiad o ddefnyddio offer cyfieithu ar y pryd a systemau cof cyfieithu.
- Gwybodaeth drylwyr am ramadeg y Gymraeg a’r datblygiadau diweddaraf ym maes cyfieithu a’r Gymraeg.
- Cywirdeb ieithyddol wrth ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Profiad o weithio mewn cyd-destun prysur ac o dan bwysau.
- Gwybodaeth am ofynion Safonau’r Gymraeg mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
- Sgiliau rheoli amser effeithiol a phrofiad o weithio i derfynau amser tyn.
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol a’r gallu i gyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol.
- Lefel Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig C2.*
Dymunol
- Cymhwyster proffesiynol mewn cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
- Profiad o gyfieithu i sefydliad Addysg Uwch.
- Gwybodaeth am weithdrefnau Addysg Uwch.
*Gellir gweld manylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/
Sut i wneud cais
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Buddion
- Polisi gweithio’n hyblyg
- Gweithio hybrid
- 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
- Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
- Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
- Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
- Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
- Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
- Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
- Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.
Darllenwch ymlaen
Yn gyffredinol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi gweithio hybrid, gan ganiatáu cymysgedd o weithio yn y swyddfa a gweithio o bell ar gyfer rolau addas i wella hyblygrwydd a chynhyrchiant. Mae disgrifiadau swyddi fel arfer yn manylu ar leoliad gwaith cynradd ochr yn ochr â chyfleoedd ar gyfer gwaith hyblyg, o bell, neu gartref, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth a chymeradwyaeth y rheolwr.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Fisa Cyflogaeth
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).