Cyfieithydd gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd (4870)

Cyfieithydd gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd

Athrofa/Adran
Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg
Graddfa Cyflog
£36,386 - £42,155 y flwyddyn (pro rata)
Math o Gytundeb
Parhaol, Rhan Amser
Oriau Wythnosol
25
Fisa Cyflogaeth
Di-nodded
Dyddiad Agor
14/03/2023
Dyddiad Cau
28/03/2023
Rhif Cyfeirnod
4870
Dogfennau

Disgrifiad Swydd

Y rôl 
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth:

Y rôl 

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn dymuno penodi cyfieithydd sydd ag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun i’r Brifysgol, ynghyd â chyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd prif bwyllgorau’r Brifysgol a chyfarfodydd amrywiol eraill. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras, disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tuag 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dylan Hughes ar dyh8@aber.ac.uk 

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau eraill. 

  • Darparu gwasanaeth cyfieithu testun sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol.
  • Darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd, gwasanaethau proffesiynol a phrif bwyllgorau’r Brifysgol. Bydd gofyn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys cyfarfodydd a chyfweliadau a drefnir gan Adnoddau Dynol, cyfarfodydd un i un rhwng staff a myfyrwyr, seminarau a darlithoedd cyhoeddus.
  • Ymgyfarwyddo â systemau ac offer cyfieithu ar y pryd.
  • Bod yn barod i weithio’n hyblyg yn ôl yr angen (e.e. mewn lleoliadau eraill ac eithrio campws Prifysgol Aberystwyth)
  • Defnyddio system Cof Cyfieithu a system Llif Gwaith yr Uned Gyfieithu yn effeithiol.
  • Cydweithio â thîm o gyfieithwyr i sicrhau bod y gwaith cyfieithu testun yn cael ei flaenoriaethu’n effeithiol a bod y gwasanaeth yn un prydlon.
  • Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd sensitif eu natur a deall pwysigrwydd cyfrinachedd mewn sefyllfaoedd o’r fath.
  • Cyfieithu dogfennau sensitif a chyfrinachol eu cynnwys a deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymdrin â’r dogfennau hyn.
  • Sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir a defnyddio terminoleg gywir a chyson yn unol ag arfer y Brifysgol.
  • Ymgynghori â chwsmeriaid am eu hanghenion cyfieithu ar y pryd, e.e. nifer o bobl a fydd yn bresennol, faint o offer fydd eu hangen, natur ac amseru’r digwyddiad.
  • Ymgynghori â chwsmeriaid am gynnwys dogfennau a anfonir i’w cyfieithu ac am ddyddiadau dychwelyd gwaith.
  • Cydweithio’n effeithiol â chydweithwyr yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac â staff a myfyrwyr ar draws holl adrannau’r Brifysgol gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ieithyddol briodol o ansawdd uchel.
  • Ymrwymo i ofynion Safonau’r Gymraeg.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol sy’n gymesur â gradd y rôl.

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol

Hanfodol

  1. Gradd mewn pwnc perthnasol.
  2. Profiad helaeth o gyfieithu ar y pryd.
  3. Profiad helaeth o gyfieithu pob math o destunau yn enwedig testunau academaidd, gweinyddol a deunyddiau hyrwyddo a marchnata.
  4. Profiad o drin testunau a sefyllfaoedd cyfrinachol.
  5. Profiad o ddefnyddio offer cyfieithu ar y pryd, systemau cof cyfieithu a systemau llif gwaith.
  6. Gwybodaeth drylwyr am ramadeg y Gymraeg a’r diweddaraf ym maes cyfieithu a’r Gymraeg.
  7. Cywirdeb ieithyddol wrth ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  8. Profiad o weithio mewn cyd-destun prysur ac o dan bwysau.
  9. Gwybodaeth am ofynion Safonau’r Gymraeg mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
  10. Sgiliau cyfathrebu effeithiol a’r gallu i gyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol.
  11. 11. Y gallu i ddefnyddio technoleg cyfieithu.
  12. Lefel Cymraeg Llafar (siarad) ac Ysgrifenedig C2.*

Dymunol

  1. Cymhwyster proffesiynol mewn cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
  2. Profiad o gyfieithu i sefydliad Addysg Uwch.
  3. Gwybodaeth am weithdrefnau Addysg Uwch.

*Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/    

Sut i wneud cais

Mae ceisiadau ar gyfer y swyddi gwag hyn trwy jobs.aber.ac.uk.  

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Buddion

  • Polisi gweithio hyblyg
  • 36.5 – awr yr wythnos ar gyfer swyddi llawn amser
  • Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a diwrnodau caeedig Prifysgol
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
  • Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
  • Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
  • Cyfle i ddysgu ac i wella eich Cymraeg am ddim
  • Bwrsari adleoli staff
  • Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhiant a Mabwysiadu
  • Gostyngiad staff ar gyfer cyfleusterau campfa, lletygarwch a manwerthu ar y campws..

Darllenwch ymlaen

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni, ac rydym yn annog a chynorthwyo ein staff i ddysgu Cymraeg ac i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Fisa Cyflogaeth:

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU,  nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).