Cynorthwyydd Cynulleidfaoedd ac Ymgyrchoedd (5985)

Cynorthwyydd Cynulleidfaoedd ac Ymgyrchoedd

Athrofa/Adran
Canolfan y Celfyddydau
Graddfa Cyflog
£23,914.00 y flwyddyn
Math o Gytundeb
Cyfnod penodol
Hyd
12 months
Math o Gytundeb
Llawn Amser
Oriau Wythnosol
36.5
Fisa Cyflogaeth
Di-nodded
Dyddiad Agor
08/12/2025
Dyddiad Cau
04/01/2026
Rhif Cyfeirnod
5985
Dogfennau

Disgrifiad Swydd

Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth

Y rôl

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Rydym yn edrych am unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â’r tîm, i weithio ar strategaethau marchnata a chyfathrebu sy’n denu sylw ac yn atyniadol i gefnogi ehangder gweithgareddau Canolfan y Celfyddydau.

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yw un o’r canolfannau celfyddydol mwyaf a phrysuraf yng Nghymru, gyda neuadd gyngerdd proffesiynol, theatr, stiwdio, sinema, orielau, a mannau ar gyfer gweithdai.  Rydym yn cynnig rhaglen brysur ar draws yr holl ffurfiau celf ac yn derbyn gweithiau teithiol gan gwmnïau teithiol blaenllaw yn ogystal â chynhyrchu ein sioeau a’n gwyliau proffesiynol ein hunain.

Wedi ein lleoli yng nghanol campws Prifysgol Aberystwyth, rydym yn cynnig pecyn deniadol sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol, polisi gwaith hyblyg, 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau, cefnogaeth i symud i’r ardal a gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon, y mannau arlwyo a’r siopau. Mae Aberystwyth yn lle bendigedig i fyw ynddo, ac mae tîm y Ganolfan yn wych i gydweithio â nhw - dewch i ymuno â ni!

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Louise Amery lla@aber.ac.uk

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.

Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.

Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo’r tîm Marchnata a Chyfathrebu i ddatblygu a darparu strategaethau marchnata i gynhyrchu cynnwys atyniadol o ansawdd uchel, yn arbennig ar gyfer ein sianeli digidol, gan gwmpasu ehangder gweithgareddau Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn ogystal â gweithredu ymgyrchoedd o ddydd i ddydd.

Rydym yn edrych am unigolyn hyderus, talentog a deinamig sydd â dealltwriaeth dda o gynnwys digidol a llygad creadigol.  Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o amrywiaeth o dasgiau cyfathrebu ar-lein megis creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol, golygu fideo ac/neu animeiddio.

Yn gweithio fel rhan o’r Tîm Marchnata, byddwch yn creu cynnwys gwreiddiol, ac yn ymdrechu’n barhaus i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyfleu stori a rhaglen Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth i gynulleidfaoedd allanol, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ehangach, i gynyddu niferoedd ymwelwyr a chodi ymwybyddiaeth ehangach o’r brand ar-lein.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Cyflwyno ymgyrchoedd i farchnata gweithgareddau’r Ganolfan, er mwyn sicrhau’r proffil uchaf a’r presenoldeb mwyaf posibl mewn digwyddiadau. 

Cynnwys Digidol

  • Cynhyrchu cynnwys aml-gyfrwng deniadol i ddefnyddwyr ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd targed (e.e. pobl ifanc, aelodau’r gynulleidfa, cyfranwyr ac ati), gan deilwra cynnwys yn ofalus ar gyfer y grŵp targed a’r sianel ddosbarthu.  
  • Bod yn ymatebol ac yn hyblyg wrth greu a chyflawni cynnwys yn adweithiol neu ar fyr rybudd.
  • Cyfrannu’n weithredol at ddatblygu syniadau dyfeisgar a mentrau newydd.
  • Recordio a golygu prosiectau sain a fideo.
  • Sicrhau bod gwerthoedd a negeseuon brand Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn cael eu cynrychioli’n gywir ar holl ddeunyddiau’r Ganolfan.
  • Adolygu ymgyrchoedd yn rheolaidd er mwyn dysgu sut y gellir creu cynnwys gwell yn y dyfodol.
  • Cyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus strategaeth ddigidol ac ar-lein y Ganolfan a’r fframweithiau cymorth ac adnoddau cysylltiedig.
  • Defnyddio’r holl adnoddau technegol sydd ar gael ar hyn o bryd i wireddu syniadau fideo mewn ffordd sydd mor effeithiol a thrawiadol â phosibl, i’r safonau proffesiynol uchaf, ac o fewn y gyllideb.

Gwefan, RhPC a Chyfryngau Cymdeithasol

  • Cynnal a diweddaru gwefan y Ganolfan a’i phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a threfnu ymgyrchoedd rheolaidd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys defnyddio Facebook, X (Twitter), Instagram a llwyfannau a mentrau newydd eraill.
  • Cynnal a darparu gwasanaeth cyfathrebu’r Ganolfan i gynulleidfaoedd a darpar gynulleidfaoedd, trwy gyfrwng llythyra uniongyrchol, e-daflenni, a’r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys defnydd addas o ddata cwsmeriaid trwy ein trefn o werthu tocynnau a Mailchimp. 
  • Cefnogi rhaglen reolaidd o ymchwilio a dadansoddi’r gynulleidfa.  
  • Sicrhau bod presenoldeb y Ganolfan ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol yn cydymffurfio â pholisïau mewnol y Brifysgol ar ymddygiad (Parch a Chydraddoldeb yn y Gweithle, Bwlio ac ati) a deddfwriaeth allanol (difenwi, enllib, gwarchod data (GDPR), hawlfraint, yr Iaith Gymraeg, hygyrchedd digidol ac ati)

Arddangos print

  • Cydlynu a chynnal gweithgareddau marchnata o ran cynhyrchu, arddangos a dosbarthu deunyddiau hyrwyddo printiedig rheolaidd. Cydgysylltu â rhaglenwyr, cwmnïau sy’n ymweld, asiantaethau dylunio ac argraffwyr a chydweithwyr eraill ac ymgymryd â gwaith dylunio ymarferol gan ddefnyddio meddalwedd megis Canva, Adobe InDesign neu Photoshop.
  • Sicrhau bod deunydd printiedig yn cael ei arddangos ledled y Ganolfan a’i safleoedd hysbysebu allanol.

Y Wasg

  • Cynorthwyo i weithredu ymgyrchoedd y cyfryngau a’r wasg, gan gwmpasu tasgiau golygyddol a hysbysebu.

Rhwydweithio, Cyd-gysylltu a Goruchwylio Staff  

  • Ni fydd unrhyw gyfrifoldeb rheolwr llinell ond o bryd i’w gilydd bydd angen goruchwylio a dirprwyo dyletswyddau i’w cyflawni gan weithwyr ar leoliad gwaith neu wirfoddolwyr sy’n ymgymryd â gweithgareddau marchnata uniongyrchol.
  • Meithrin a chynnal perthynas gadarnhaol gyda chysylltiadau allweddol a phartneriaid hyrwyddo. 
  • Cydgysylltu â chydweithwyr ar draws y Ganolfan, yn arbennig staff y Swyddfa Docynnau i sicrhau bod gwybodaeth yn llifo’n effeithiol.

Cyllidebau a Chyllid 

  • Ni ddisgwylir i ddeiliad y swydd reoli cyllideb ond disgwylir iddo ymgymryd â rhai prosesau cyllidol gan gynnwys codi archebion (e.e. i brynu lle i hysbysebu, neu’n fewnol am gyflenwadau eraill), a gwirio nwyddau a dderbyniwyd

Dyletswyddau eraill

  • Bydd deiliad y swydd yn cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Llinell neu aelod arall o staff uwch y Ganolfan neu’r Gyfadran.
  • Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i hyrwyddo gweithle iach a diogel trwy arddel dyletswydd gofal tuag ato’i hun, tuag at unrhyw aelod arall o staff ac at aelodau’r cyhoedd.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol a deall sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Ymrwymo i’ch datblygiad eich hun trwy ddefnyddio trefn Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.

Mae hon yn swydd gyffrous o fewn adran brysur, yn cynnig cyfle delfrydol i rywun sy’n dymuno datblygu gyrfa ym maes marchnata’r celfyddydau.

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol

 

Hanfodol

  1. Addysg hyd at lefel-A neu gyfwerth
  2. Profiad o ymgymryd ag ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol yng nghyd-destun marchnata/hyrwyddo ar draws gwahanol lwyfannau  (Youtube, X (Twitter), Facebook, Instagram, Hootsuite ac ati)
  3. Profiad o weithio gyda’r cyhoedd
  4. Sgiliau da wrth ymdrin â phobl, sy’n galluogi perthynas weithio dda mewn tîm a’r gallu i ddylanwadu a darbwyllo ystod eang o bobl
  5. Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig
  6. Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth ac i fod yn rhagweithiol a blaengar wrth ddatrys problemau
  7. Y gallu i weithio o dan bwysau ac i ymateb yn gyflym ac yn briodol i raglen o weithgareddau sy’n newid o hyd
  8. Sylw rhagorol i fanylion, gan gynnwys sgiliau prawfddarllen cryf 
  9. Sgiliau technoleg ddigidol ymarferol gan gynnwys sgiliau fideo a golygu 
  10. Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel C1

Dymunol

  1. Profiad/cefndir o weithio mewn sefydliad celfyddydol
  2. Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth / hyfforddiant ym maes marchnata neu gymhwyster ffurfiol  
  3. Trwydded yrru lân a llawn
  4. Gwybodaeth am y wasg a’r cyfryngau ym maes y celfyddydau
  5. Y gallu i ddatblygu a chreu amrywiaeth eang o gopi  gwerthiannau / marchnata
  6. Profiad o becynnau Adobe (Premier, Photoshop, Indesign ac Illustrator)
  7. Profiad o gipio/mewnforio cyfryngau, trefnu cyfryngau ar eu ffurf wreiddiol, golygu ffilm a ffeiliau sain, creu a mewnosod graffeg statig a symudol, is-deitlo, darparu capsiynau ac ychwanegu cerddoriaeth/lleisio/sfx yn ôl y gofyn
  8. Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel C2

*Gellir gweld mwy o wybodaeth am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:

https://www.aber.ac.uk/en/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/

Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk.   Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Buddion

  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
  • Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
  • Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
  • Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
  • Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
  • Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
  • Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
  • Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws. 

Darllenwch ymlaen

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Fisa Cyflogaeth

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).