Cynorthwyydd Ty Gwydr (Cyfnod Mamolaeth) (5786)

Cynorthwyydd Ty Gwydr (Cyfnod Mamolaeth)

Athrofa/Adran
Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Graddfa Cyflog
£23,914.00 y flwyddyn (pro rata)
Math o Gytundeb
Cyfnod penodol
Hyd
2/6/25 to 1/12/2025
Math o Gytundeb
Llawn Amser
Oriau Wythnosol
36.5hrs
Fisa Cyflogaeth
Di-nodded
Dyddiad Agor
27/05/2025
Dyddiad Cau
08/06/2025
Rhif Cyfeirnod
5786
Dogfennau

Disgrifiad Swydd

Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth

Y rôl

Er mwyn hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu amser tymor yn unig.

Bydd deiliaid y swyddi yn gweithio fel rhan o dîm aml-sgil o staff cymorth, academaidd ac ymchwil i sicrhau gweithrediad a chynnal a chadw’r Tai Gwydr yn llyfn i ddiwallu anghenion arbrofion ymchwil a threialon maes.

I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Dai Morgan ar dgm@aber.ac.uk.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.

Bydd deiliaid y swyddi yn ymgymryd â rhai neu’r cyfan o’r tasgau canlynol a bydd yn dibynnu ar, gwybodaeth, sgiliau, profiad a hyfforddiant

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

• Cyflawni cynhaliaeth a chynnal a chadw manwl o’r planhigion a deunydd planhigion a pharatoi deunydd arbrofol yn barod ar gyfer prosiectau newydd, gan gysylltu’n agos â staff gwyddonol i sicrhau bod y planhigion ar y cam tyf gofynnol yn unol â manylebau’r prosiect.
• Paratoi potiau / bocsys ar gyfer arbrofion gwyddonol (i gynnwys cymysgu compostau arbennig manwl) i gefnogi prosiectau a gynhelir mewn amgylchedd wedi’i reoli.
• Cynorthwyo gydag adleoli a gwaredu deunydd planhigion gwyddonol / diheintio potiau a bocsys yn ôl manyleb ac yn unol â phrotocolau sefydledig, gweithdrefnau gweithredu, COSHH ac ati.
• Ymgymryd â chymhwyso chwistrellu cemegol o fewn y tîm chwistrellu, mewn tai gwydr ac ardaloedd polytwnnel ac o amgylch yn unol â pholisïau a gweithdrefnau COSHH ac Iechyd a Diogelwch.
• Cynorthwyo gyda threfnu, dyrannu a chymhwyso Rheolaethau Biolegol Integredig ledled cyfleuster Venlo ac ardaloedd cysylltiedig eraill bob pythefnos.
• Cynorthwyo gyda dyfrhau arbrofion gwyddonol os oes angen. Ymgymryd â chyfrifoldebau dyfrhau penwythnos yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.
• Cynorthwyo i gynnal tai gwydr effeithiol a gwbl weithredol o ran rheoleiddio tymheredd, agweddau iechyd a diogelwch, osgoi risg ac iechyd planhigion.
• Sicrhau cadw’n llym at SOPs i sicrhau cwblhau’r prosiect yn llwyddiannus. Cynnal cofnodion llaw a chyfrifiadurol i ddarparu’r llwybrau archwilio angenrheidiol i fodloni gofynion yr holl bartïon â ddiddordeb gan gynnwys partneriaid masnachol, staff academaidd a myfyrwyr.
• Cyfathrebu a rhyngweithio â staff ymchwil i ddeall gofynion planhigion ac amodau tyfu.
• Hysbysu staff, myfyrwyr a chydweithwyr ac ati am unrhyw wybodaeth berthnasol sy’n berthnasol i gyflawni’r prosiect yn llwyddiannus.
• Cyfrannu at ddarparu deunyddiau planhigion o ansawdd uchel at ddibenion ymchwil ac addysgu.
• I godi materion am gynnal a chadw cyffredinol y tyddynnau i’r Rheolwr a’r Cynorthwyydd Uwch, er mwyn sicrhau bod y tai gwydr a’r ardaloedd potio wedi’u cynnal i’r safonau uchaf o atgyweirio a swyddogaeth.
• Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
• Bod yn ymrwymedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth y Brifysgol, ynghŷd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
• Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hyn a datblygiad eich staff trwy ddefnydd effeithiol o Gynllun Cyfraniadau Effeithiol y Brifysgol.
• Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Mae’r swydd yn un gorfforol felly mae’n hanfodol bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus lefel briodol o iechyd a ffitrwydd. Gall penodiad i’r swydd hon fod yn destun asesiad ffitrwydd boddhaol.

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol

Hanfodol

1. TGAU Mathemateg a Saesneg graddau A – C neu dystiolaeth o lythrennedd a rhifedd i’r safon hon.
2. Trwydded Yrru DU dilys llawn neu hawl gyfatebol i yrru yn y DU. (gyda chategori trelar)
3. Profiad o weithio gyda deunydd planhigion (glaswellt, meillion, grawnfwydydd a chnydau eraill)
4. Wedi arfer â gwaith corfforol a gweithio yn yr awyr agored.
5. Y gallu i ddefnyddio meddalwedd chyfrifiadurol safonol (h.y. Microsoft Word, Outlook)
6. Y gallu i fod yn hyblyg yn ôl gofynion gwaith a thîm
7. Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
8. Y gallu i weithio i, a dilyn, cyfarwyddiadau ysgrifenedig manwl.
9. Y gallu i weithio gyda chywirdeb a sylw i fanylion
10. Gallu deall natur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o’r trefniadau sydd ar waith i gefnogi gweithio yn ddwyieithog.

Dymunol

1. Cymhwyster garddwriaethol perthnasol neu gymhwyster tebyg.
2. Tystysgrif chwistrellu cemegol (PA1 a PA6)
3. Cyfarwydd â systemau tŷ gwydr / amgylchedd wedi’i reoli’n gyfrifiadurol
4. Mae profiad o dyfu planhigion mewn amgylcheddau tŷ gwydr yn ddymunol iawn.
5. Byddai gwybodaeth am arddwriaeth / amaethyddiaeth yn fanteisiol.
6. Lefel Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig A1.*

*Gellir gweld manylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/

Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk.   Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Buddion

  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
  • Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
  • Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
  • Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
  • Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
  • Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
  • Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
  • Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws. 

Darllenwch ymlaen

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Fisa Cyflogaeth

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).