Darlithydd Mewn Addysg Gofal Iechyd (5792)
Darlithydd Mewn Addysg Gofal Iechyd
Disgrifiad Swydd
Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth
Y rôl
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Ddarlithydd Nyrsio profiadol mewn Addysg Gofal Iechyd (Nyrs cofrestredig Maes Oedolion) ymuno â Phrifysgol Aberystwyth. Fel rhan o’i chenhadaeth ddinesig, mae Prifysgol Aberystwyth yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gefnogi anghenion gweithlu a chymunedol Canolbarth Cymru drwy gynyddu cyfleoedd i unigolion hyfforddi a gweithio ym maes gofal iechyd yn eu hardal leol. Gan weithio ar y cyd â Byrddau Iechyd Lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, y nod yw dylunio a darparu nifer o gyrsiau proffesiynol sy’n ymwneud ag iechyd (ar lefelau cyn ac ôl-gofrestru a Datblygiad Proffesiynol Parhaus), gan ddechrau gyda graddau BSc mewn Nyrsio Oedolion cyn cofrestru a Nyrsio Iechyd Meddwl - amser llawn a rhan amser, rhaglen Dychwelyd i Ymarfer Nyrsio, a Thystysgrif Lefel 4 mewn Astudiaethau Gofal Iechyd, ynghyd a gweithredu'r rhaglenni Nyrs Cyswllt Cofrestredig.
Daw’r weledigaeth hon ar adeg amserol gyda chychwyn llwybrau newydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB) a gwahoddiadau i dendro i’r holl ddarparwyr presennol a darpar ddarparwyr addysg gofal iechyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio eu hastudiaethau yn Aberystwyth ym mis Medi 2022.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Prif Arweinydd a Phennaeth Addysg Gofal Iechyd a chydlynwyr cynllun i ddylunio a chyflwyno darpariaeth newydd mewn rhaglenni Lefel 4, Nyrsio Oedolion cyn-gofrestru, graddau Nyrsio Iechyd Meddwl, rhaglenni Dychwelyd i Ymarfer a Modiwlau DPP gan addysgu sgiliau clinigol a efelychu. Bydd y rhaglenni'n cael eu datblygu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Lle mae nawdd fisa yn debygol, rhaid i'r adran hon nodi'n gryno ond yn glir brif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r rôl.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â/ag Amanda Jones- Prif Arweinydd Phennaeth Addysg Gofal iechyd ar amj36@aber.ac.uk.
Rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cadarnhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Y dyddiad cyfweld arfaethedig fydd 11 Gorffennaf (yn bersonol)
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.
• Addysgu dyddiol ar y safle o ystod eang o bynciau yn ymwneud â gofal iechyd a sgiliau clinigol ar y safle fel Nyrs Gofrestredig yn y tîm addysgu Addysg Gofal Iechyd, gydag arbenigedd mewn Maes Nyrsio Oedolion
• Profiad blaenorol o addysgu o fewn Sefydliad Addysg Uwch (SAU) yn angen rheidiol
• Tiwtor personol ar gyfer grŵp o fyfyrwyr gofal iechyd dynodedig
• Gweithredu fel cydlynydd modiwlau, rheoli modiwlau a chydlynu gwaith cydweithwyr lle bo angen
• Herio meddwl, meithrin trafodaeth a datblygu gallu myfyrwyr i gymryd rhan mewn di sgwrs beirniadol a meddwl rhesymegol.
• Cydweithio â rhanddeiliaid, defnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr academaidd ar ddatblygu a newid y cwricwlwm a modiwlau
• Mynd ati i chwilio am gyfleoedd i gynllunio, dylunio a darparu DPP gofal iechyd ar y cyd i amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol
• Sicrhau bod eich gwybodaeth a'ch sgiliau proffesiynol eich hun yn gyfredol ac yn bodloni gofynion ail ddilysu a chynnal cofrestriad proffesiynol ar y rhan berthnasol o'r gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) yn y DU
• Gweithredu fel aseswr academaidd a darparu cymorth o ansawdd uchel i fyfyrwyr a staff clinigol mewn amrywiaeth o amgylcheddau dysgu ymarfer
• Mynd ati i reoli cyfleoedd dysgu ar leoliad a chapasiti ar gyfer myfyrwyr nyrsio
• Gweithredu'n unol â Chod yr NMC bob amser, gan sicrhau bod y gwerthoedd a'r egwyddorion yn cael eu cynnal
• Defnyddio Cod yr NMC i helpu myfyrwyr i ddeall beth mae'n ei olygu i fod yn weithiwr proffesiynol cofrestredig a sut mae cadw at y Cod yn helpu i gyflawni hynny.
• Bod yn fodel rôl o ymddygiad proffesiynol i fyfyrwyr, cynnal uniondeb ac arweinyddiaeth i eraill anelu ato.
• Cefnogi a mentora aelodau iau o'r tîm academaidd
• Cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
• Ymroi i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, a deall sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
• Ymroi i’ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
• Unrhyw ddyletswydd resymol arall sy'n cyfateb i radd y swydd.
• Cyhoeddi a rhannu tystiolaeth o ysgolheictod sy'n ymwneud â dysgu ac addysgu mewn llyfrau, erthyglau a/neu bapurau mewn cyfnodolion academaidd.
• Cyfathrebu deunydd o natur arbenigol neu dechnegol iawn.
• Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd grŵp pwnc.
• Nodi anghenion dysgu myfyrwyr a darparu addysgu priodol i fodloni gofynion
• Cysylltu â chydweithwyr a myfyrwyr. Adeiladu cysylltiadau mewnol a chymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ac i ffurfio perthnasoedd ar gyfer
• Defnyddio sgiliau gwrando, gofal rhyngbersonol a bugeiliol i ddelio â materion sensitif sy'n ymwneud â myfyrwyr a darparu cymorth. Gwerthfawrogi anghenion myfyrwyr unigol a'u hamgylchiadau. Gweithredu fel tiwtor personol, gan roi cymorth llinell gyntaf.
• Addysgu fel aelod o dîm addysgu mewn rôl sy'n datblygu o fewn rhaglen astudio sefydledig, gyda chymorth mentor os oes angen. Addysgu mewn rôl sy'n datblygu mewn amrywiaeth o leoliadau o diwtorialau grwpiau bach i ddarlithoedd mawr. Trosglwyddo gwybodaeth ar ffurf sgiliau, dulliau a thechnegau ymarferol.
• Myfyrio ar ymarfer a datblygu sgiliau addysgu a dysgu eich hun.
• Bod â digon o wybodaeth arbenigol ar draws y gymuned neu ddyfnder yn y ddisgyblaeth i weithio o fewn rhaglenni addysgu sefydledig.
• Cynnal sesiynau sefydlu a darparu cefnogaeth i aelodau newydd o'r tîm.
• Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
• Bod yn ymrwymedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd.
Mae cyfrifoldebau'r swydd wag hon wedi'u cyfateb i'r Addysgu ac Ysgolheictod Proffil Rôl Academaidd. Gellir dod o hyd i fanylion proffil y rôl yn: Proffiliau Academaidd : https://www.aber.ac.uk/cy/hr/info-staff/employment/agreement/academic-profiles/
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Hanfodol Gradd 7:
1. Nyrs Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth DU (Oedolion)
2. Gradd mewn Nyrsio
3. Profiad helaeth o sgiliau clinigol cyfredol fel sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer arwain addysgu
4. Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
5. Profiad clinigol helaeth o weithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau oedolion.
6. Profiad o addysgu, goruchwylio ac asesu myfyrwyr gofal iechyd mewn lleoliadau clinigol ac addysgol
7. Arbenigedd clinigol o fewn eu maes
8. Dealltwriaeth fanwl o gwricwlwm 2020 ‘Unwaith i Gymru’ a dogfennaeth graidd
9. Gwybodaeth fanwl am safonau addysg newydd cyn-cofrestru yr CNB
10. Gwybodaeth fanwl am wahanol ddulliau addysgu a dysgu mewn gofal iechyd
11. Sgiliau cyfathrebu uwch
12. Sgiliau cyflwyno ardderchog
13. Sgiliau addysgu a hwyluso rhagorol
14. Sgiliau hyfforddi
15. Trwydded gyrru hanfodol ac yn barod I deithio oherwydd ymweliadau clinigol. Rhaid i hyn gael ei ddangos yn y cais.
16. Hanfodol: Y gallu i ddeall natur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o'r gweithdrefnau sydd mewn lle i gefnogi gweithio'n ddwyieithog.
17. Dymunol: Llafar (llafar) ac Ysgrifenedig Cymraeg Lefel C2.*
Hanfodol Gradd 8:
1. Nyrs Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth DU (Oedolion)
2. Gradd Meistr
3. Cymhwyster addysgu PGCE neu TUAAU
4. Gradd mewn Nyrsio
5. Cymrodoriaeth AAU
6. Profiad helaeth o sgiliau clinigol cyfredol fel sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer arwain addysgu
7. Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
8. Profiad clinigol helaeth o weithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau oedolion.
9. Profiad o addysgu, goruchwylio ac asesu myfyrwyr gofal iechyd mewn lleoliadau clinigol ac addysgol
10. Arbenigedd clinigol o fewn eu maes
11. Dealltwriaeth fanwl o gwricwlwm 2020 ‘Unwaith i Gymru’ a dogfennaeth graidd
12. Gwybodaeth fanwl am safonau addysg newydd cyn-cofrestru yr CNB
13. Gwybodaeth fanwl am wahanol ddulliau addysgu a dysgu mewn gofal iechyd
14. Sgiliau cyfathrebu uwch
15. Sgiliau cyflwyno ardderchog
16. Sgiliau addysgu a hwyluso rhagorol
17. Sgiliau hyfforddi
18. Trwydded gyrru hanfodol ac yn barod I deithio oherwydd ymweliadau clinigol. Rhaid i hyn gael ei ddangos yn y cais.
19. Hanfodol: Y gallu i ddeall natur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o'r gweithdrefnau sydd mewn lle i gefnogi gweithio'n ddwyieithog.
20. Dymunol: Llafar (llafar) ac Ysgrifenedig Cymraeg Lefel C2.*
*Gellir gweld manylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/
Sut i wneud cais
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Buddion
- Polisi gweithio’n hyblyg
- 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
- Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
- Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
- Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
- Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
- Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
- Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
- Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.
Darllenwch ymlaen
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Fisa Cyflogaeth
Rydym yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol sy'n gymwys i gael nawdd o dan y Llwybr Gweithiwr Medrus.
O dan y system bwyntiau, mae'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus. Sylwch mai dim ond y Dystysgrif Nawdd ar gyfer unrhyw fisâu cyflogaeth y bydd y Brifysgol yn cyfrannu tuag ati, ac na fydd yn cyfrannu tuag at dalu'r fisa cyflogaeth ar gyfer yr ymgeisydd sy’n cael cynnig y swydd, nac unrhyw ddibynyddion.
Bydd angen o leiaf 70 pwynt ar unrhyw ddarpar ymgeiswyr sy'n dod i weithio i Brifysgol Aberystwyth o dan y Llwybr Gweithiwr Medrus.
Cyfrifir y pwyntiau fel a ganlyn:
System Bwyntiau y Llwybr Gweithiwr Medrus Pwyntiau A’i bodlonwyd?
Meini Prawf Gorfodol (50 pwynt) Cynnig swydd gan noddwr trwyddedig yn y DU 20 pwynt Do
Mae'r swydd yn uwch nag isafswm lefel y sgiliau sydd eu hangen i gael nawdd 20 pwynt Do
Dylai’r ymgeisydd a benodir fedru’r Saesneg i safon briodol* 10 pwynt Do
Cyfanswm = 50 pwynt
Meini prawf y gellir eu cyfnewid (yn dibynnu ar yr ymgeisydd a benodir) Mae'r cyflog yn uwch na’r trothwy isaf 20 pwynt
Mae gan yr ymgeisydd PhD mewn pwnc sy'n berthnasol i'r swydd. 10 pwynt
Mae gan yr ymgeisydd PhD mewn pwnc STEM sy'n berthnasol i'r swydd 20 pwynt
Mae'r swydd a hysbysebwyd ar y Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder (SOL) 20 pwynt
*Diffinnir ‘safon briodol’ fel a ganlyn:
• Dinesydd gwlad lle mai Saesneg yw prif iaith y mwyafrif
• Bod â gradd academaidd a astudiwyd drwy gyfrwng y Saesneg (os yw'n radd dramor, rhaid iddi fod wedi’i dilysu gan NARIC)
• Cwblhau a phasio prawf iaith Saesneg ar Lefel B1 neu uwch.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler: https://www.gov.uk/skilled-worker-visa