Glanhäwr/Glanhäwraig (4622)
Glanhäwr/Glanhäwraig
Disgrifiad Swydd
Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth
Y rôl
Mae’r swydd yma yn un bwysig ac disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan hanfodol i gynnal lefelau uchel o lanweithdra ym mhob ardal. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio fel rhan o dîm, yn ogystal â gweithio heb oruchwyliaeth.
Atebwch y cwestiynau canlynol os gwelwch yn dda:
- Ydych chi ar gael i weithio 6-9am o ddydd Llun i ddydd Gwener?
- Ydych chi ar gael i weithio rhwng 8.45am a 2pm o ddydd Llun i ddydd Gwener?
- Ydych chi ar gael i weithio ar benwythnosau?
- A allwch chi fynd i'n safleoedd eraill yng Ngogerddan a Llanbadarn?
- Oes gennych chi unrhyw brofiad glanhau/gwaith blaenorol yr hoffech ddweud wrthyf amdano?
Dewiswch oriau contract y byddai gennych ddiddordeb ynddynt.
- hyd at 15 Oriau'r wythnos
- hyd at 20 Oriau'r wythnos
- hyd at 30 Oriau'r wythnos
- llawn amser
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Cathy Green ar clg19@aber.ac.uk.
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Bydd eich cais am y rôl hon yn aros yn fyw yn ein banc ymgeiswyr am 3 mis yn dilyn cyfnod o 3 mis ar ôl i'r swydd ddod i ben. Bydd angen i chi ailymgeisio i aros yn y gronfa ymgeiswyr ar gyfer rolau glanhau yn dilyn y cyfnod hwn.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
Dan gyfarwyddyd y Rheolwr neu’r sawl a enwebir ganddo/ganddi, byddwch yn helpu:
- Ddarparu gwasanaeth glanhau o safon uchel mewn ardaloedd penodol (ac yn union y tu allan i’r ardaloedd hyn), yn ogystal â sicrhau cyflwr glân a glanwaith, yn ôl y cyfarwyddyd ac yn unol â’r safon ofynnol;
(i) Blaenoriaethu eich gwaith eich hun a gweithio o amgylch defnyddwyr yr adeilad a sicrhau eich bod yn rhoi blaenoriaeth i lanhau’r ardaloedd a ddefnyddir gyntaf;
(ii) Glanhau ardaloedd penodol gan ddefnyddio’r technegau, y deunyddiau a’r offer priodol;
(iii) Glanhau ardaloedd penodol yn drylwyr yn unol ag anghenion busnes;
(iv) Cadw cyflenwad priodol o gemegolion a deunyddiau glanhau mewn stordy;
(v) Gwaredu sbwriel er mwyn cadw’r lle yn lân ac yn ddiogel;
Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a rheoliadol perthnasol, yn cynnwys ond heb fod wedi’u cyfyngu i:
(i) Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH);
(ii) Iechyd a Diogelwch;
(iii) Diogelu Data;
(iv) Deddfwriaeth Cyfle Cyfartal.
- Bod yn gyfrifol am wneud ardaloedd yn ddiogel wrth lanhau ac wedi hynny, e.e. sicrhau bod ffenestri a oedd yn agored yn cael eu cau a bod drysau priodol yn cael eu cloi.
- Mynd gyda’r Rheolwr neu’r sawl a enwebir ganddo/ganddi ar archwiliadau.
- Hysbysu’r Rheolwr Llinell ynghylch offer sydd ddim yn gweithio neu wedi ei ddifrodi a pheryglon posibl.
- Helpu i wagio neuaddau os oes tân a chithau ar ddyletswydd.
- Rhoi gwybod am ofynion cynnal a chadw yn yr ardal rydych yn gyfrifol amdani.
- Ateb ymholiadau gan staff ac ymwelwyr yn yr adeilad.
- Mynychu cyfarfodydd tîm.
- Dilyn yr holl gyrsiau hyfforddi angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r dyletswyddau.
- Byddai sgiliau TG sylfaenol yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, er mwyn galluogi deiliad y swydd i lywio gwefan y Brifysgol, e-bost ac i gael mynediad at eu cyfrif staff Pobl Aber (i archebu gwyliau blynyddol a chael mynediad at fanylion eich cyflog).
- Mae’r swydd hon yn gofyn llawer yn gorfforol ac yn golygu codi a chario, weithiau i fyny a lawr grisiau, symud celfi, codi dillad gwely a chario nwyddau ac offer glanhau.
- Cyflawni dyletswyddau y gall y Tîm Rheoli ofyn yn rhesymol ohonoch.
- Disgwylir ichi weithio yn unrhyw Adeilad yn y Brifysgol.
- Parodrwydd i weithio oriau ychwanegol o dro i dro, yn ogystal â gweithio shifftiau gyda’r nos, yn ôl yr angen, yn unol ag anghenion busnes.
- Cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Hanfodol
- Parodrwydd i fynychu unrhyw un o’r cyrsiau hyfforddi a nodir yn y golofn ddymunol o dan y meini prawf Cymwysterau.
- Profiad blaenorol o lanhau.
- Sgiliau cyfathrebu wyneb-yn-wyneb da er mwyn derbyn, deall a throsglwyddo gwybodaeth syml. Gallu i ateb ymholiadau oddi wrth staff ac ymwelwyr yn yr adeilad gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Parodrwydd i ddysgu sgiliau TG sylfaenol.
- Gallu i weithio’n drefnus.
- Gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm. Gallu i weithio heb oruchwyliaeth.
- Agwedd hyblyg tuag at waith, parodrwydd i ddysgu am ofynion y Brifysgol (a Gwasanaethau’r Campws yn enwedig) a gallu i ddilyn cyfarwyddiadau.
- Mae’r swydd yn gofyn llawer yn gorfforol ac yn golygu codi dillad gwely a chario nwyddau ac offer glanhau; felly mae’n hanfodol fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus lefel briodol o iechyd a ffitrwydd.
- Lefel Cymraeg Llafar (siarad) ac Ysgrifenedig A0.Y gallu i ddeall natur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o’r trefniadau sydd mewn lle i gefnogi gweithio yn ddwyieithog.
Dymunol
- Hyfforddiant Cymorth Cyntaf.
- Hyfforddiant Codi a Chario.
- Hyfforddiant COSHH neu wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio cemegolion glanhau yn gywir.
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch sylfaenol.
- Cymhwyster gwasanaeth cwsmeriaid.
- Profiad o weithio yn y Sector Addysg Uwch.
- Sgiliau TG sylfaenol a’r gallu i ddefnyddio’r Rhyngrwyd ac e-bost.
- Lefel Cymraeg Llafar (siarad) ac Ysgrifenedig A1.*
*Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma: https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/
Sut i wneud cais
Mae ceisiadau ar gyfer y swyddi gwag hyn trwy jobs.aber.ac.uk.
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Buddion
- Polisi gweithio hyblyg
- 36.5 – awr yr wythnos ar gyfer swyddi llawn amser
- Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a diwrnodau caeedig Prifysgol
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
- Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
- Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
- Cyfle i ddysgu ac i wella eich Cymraeg am ddim
- Bwrsari adleoli staff
- Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhiant a Mabwysiadu
- Gostyngiad staff ar gyfer cyfleusterau campfa, lletygarwch a manwerthu ar y campws..
Darllenwch ymlaen
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Fisa Cyflogaeth
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).