Partner Busnes Adnoddau Dynol (5923)

Partner Busnes Adnoddau Dynol

Athrofa/Adran
Adnoddau Dynol
Graddfa Cyflog
£47,389.29 - £56,535.44 y flwyddyn
Math o Gytundeb
Parhaol, Llawn Amser
Oriau Wythnosol
36.5
Fisa Cyflogaeth
Noddedig
Dyddiad Agor
27/10/2025
Dyddiad Cau
09/11/2025
Rhif Cyfeirnod
5923
Dogfennau

Disgrifiad Swydd

Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth

Y rôl

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd sydd â threfniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd neu yn ystod y tymor yn unig. 

Mae’r Partner Busnes Adnoddau Dynol (AD) yn gyfrifol am weithio mewn partneriaeth â'r meysydd busnes a benodwyd iddynt i ddarparu gwasanaeth Adnoddau Dynol a gwasanaeth datblygu sefydliadol proffesiynol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn gyrru gwell perfformiad.  Bydd deiliad y swydd yn cael ei glustnodi i ddarparu gwasanaeth i adrannau neu ardaloedd gwaith penodedig yn y Brifysgol.   

Prif swyddogaeth y rôl fydd datblygu strategaethau a chyflwyno mentrau busnes a rhaglenni i’r gweithlu, sy'n cefnogi cynlluniau ac amcanion yr adran.  Bydd y rôl hefyd yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweithredol i reolwyr ar faterion cymhleth sy’n ymwneud â chysylltiadau â gweithwyr cyflogedig gan weithio ar y cyd â chydweithwyr AD i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu bodloni.  Bydd y Partner Busnes AD yn cyfrannu at brosiectau AD ar draws y Brifysgol yn unol â chyfarwyddiadau eu rheolwr llinell. 

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Deb Rhead ar der31@aber.ac.uk

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.   

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Gallai'r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a'i newid i gyd-fynd â newidiadau yn anghenion y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol, ac/neu i ychwanegu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.

Y Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau  

Arweinyddiaeth strategol AD

  • Datblygu a gweithredu cynllun pobl sy'n cyd-fynd â strategaeth a gwerthoedd y brifysgol.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag arweinwyr uwch yn y Gwasanaethau Proffesiynol (e.e, Cyllid, Ystadau, TG, Marchnata) i gynorthwyo â gwaith cynllunio'r gweithlu, dylunio sefydliadol, a mentrau newid. 
  • Defnyddio data a dealltwriaeth i lywio penderfyniadau a mesur effaith ymyriadau AD.

Rheoli Talent a Datblygu

  • Arwain y gwaith cynllunio ar gyfer olyniaeth a datblygu ffrwd gyson o dalent, gan sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant trwy weithio gyda Phartner Busnes Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant. 
  • Cynorthwyo partneriaid wrth recriwtio, gan gynnwys strategaethau denu a dethol cynhwysol.
  • Cydweithio ar gynlluniau hyfforddi a datblygu gyda thimau Datblygu Sefydliadol er mwyn cadw talent a meithrin gallu.

Cysylltiadau â Gweithwyr Cyflogedig a Chreu Cyswllt

  • Cynghori a hyfforddi rheolwyr ar faterion yn ymwneud â chysylltiadau â gweithwyr cyflogedig, yn ffurfiol ac anffurfiol.
  • Hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chynhwysol yn y gweithle, gan gefnogi mentrau lles a rhaglenni cyswllt.
  • Sicrhau bod cysondeb wrth weithredu polisïau a gweithdrefnau AD ar draws adrannau.

Perfformiad a Gwobrwyo

  • Cynorthwyo Penaethiaid Adrannau a Rheolwyr Llinell i ddatblygu perfformiad, gan sicrhau bod perfformiad yn cael ei gydnabod a bod tanberfformio yn cael ei ddatrys.
  • Datblygu ac ymgorffori proses ystwyth ar gyfer datblygu perfformiad ac adnoddau cefnogol.
  • Cyfrannu at brosesau i gloriannu swyddi a gwobrwyo.

Rheoli Newid a Datblygu Sefydliadol

  • Cynorthwyo ac arwain ar brosiectau yn ymwneud â newid sefydliadol, gan gynnwys ailstrwythuro a gwelliannau i wasanaethau.
  • Gweithredu fel person cyswllt rhwng adrannau a swyddogaethau canolog AD (e.e., Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant, Dysgu a Datblygu, y Gyflogres).

Cydweithio a Chyfathrebu

  • Gweithio'n agos gyda thimau AD sydd wedi'u hymgorffori ar draws cyfadrannau a gwasanaethau yn ogystal â Phartneriaid Busnes Adnoddau Dynol eraill.
  • Pontio rhwng y Gwasanaethau Proffesiynol ac AD, gan sicrhau eu bod yn cydweddu a bod cysondeb rhyngddynt.
  • Cynorthwyo Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol trwy ysgrifennu adroddiadau ar gyfer sesiynau briffio’r weithrediaeth a’r cyngor. 

Cyfrifoldebau Ychwanegol 

  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.  
  • Cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni ar lefel y brifysgol yn ôl y cyfarwyddyd, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n gymesur â'r rôl, fel y'u pennir i chi gan y rheolwr llinell. 
  • Dangos hyblygrwydd trwy gefnogi cydweithwyr mewn cyfnodau pan fo’r llwyth gwaith yn drwm, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau allweddol y brifysgol megis diwrnodau agored a seremonïau graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau. 
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith.  
  • Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
  • Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd, gan fynd ati’n weithredol i hybu iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth.  Yn ogystal â hyn, cefnogi ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy feithrin arferion cyfrifol a chyfranogi’n briodol.   

Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon. 

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol

Hanfodol 

  1. Aelodaeth Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) neu brofiad neu gymhwyster cyfatebol.
  2. Profiad perthnasol o weithredu ar lefel Partner Busnes.
  3. Profiad o ymwneud ag undebau llafur ac o drafod â hwy.
  4. Profiad sylweddol o ymdrin â materion yn ymwneud â chysylltiadau â gweithwyr cyflogedig gan gynnwys gwaith achosion cymhleth a rheoli tribiwnlysoedd a chymryd rhan ynddynt.
  5. Gwybodaeth gyfredol am gynseiliau o ran cyfraith cyflogaeth, cyfraith achosion, er mwyn darparu cyngor priodol.
  6. Gallu troi’ch crebwyll busnes yn rhaglenni cryf i’r gweithlu sy'n creu effaith ac yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau strategol.
  7. Prawf o’ch gallu i reoli newid sefydliadol, cynllunio'r gweithlu, ailstrwythuro a newid diwylliannol.
  8. Prawf o’ch gallu i weithredu fel rhan o dîm a’r gallu i fod yn rhanddeiliad allweddol.
  9. Cyfathrebwr hyderus gyda sgiliau llafar ac ysgrifenedig ardderchog gan gynnwys sgiliau argyhoeddi, dyfalbarhad, anogaeth, cyd-drafod, sgiliau dylanwadu, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno. 
  10. Wedi datblygu sgiliau TG da gan ddefnyddio Microsoft Office, pecynnau AD pwrpasol a'r gronfa ddata AD.
  11. Gallu gweithio gyda blaenoriaethau sy'n gwrthdaro a’i gilydd ac i derfynau amser tynn, gan roi sylw i fanylion ar yr un pryd.
  12. Menter, a sgiliau da o ran datrys problemau, dadansoddi a gwneud penderfyniadau.
  13. Gallu gweithredu’n rheolwr llinell i hyfforddi cydweithwyr proffesiynol, dirprwyo'n effeithiol a sicrhau safonau ansawdd.
  14. Cymraeg Llafar (siarad) ac Ysgrifenedig Lefel C1.*

Manteisiol

  1. Cymrodoriaeth y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
  2. Profiad o gyflawni canlyniadau gweithredol y gwaith sy’n ymwneud â chysylltiadau â gweithwyr cyflogedig naill ai o ran medrusrwydd, disgyblu neu ddileu swyddi. 
  3. Sgiliau cyfryngu achrededig.
  4. Sgiliau TG uwch, yn benodol Excel a Word.
  5. Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel C2.*

*Cewch ragor o wybodaeth am lefelau'r iaith Gymraeg yma:

https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/  

Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk.   Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Buddion

  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
  • Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
  • Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
  • Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
  • Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
  • Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
  • Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
  • Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws. 

Darllenwch ymlaen

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Fisa Cyflogaeth

Rydym yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol sy'n gymwys i gael nawdd yn rhan o’r Llwybr Gweithiwr Medrus.

O dan y system bwyntiau, mae'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth am gais Llwybr Gweithiwr Medrus.  Sylwch mai dim ond y Dystysgrif Nawdd ar gyfer unrhyw fisâu cyflogaeth y bydd y Brifysgol yn cyfrannu tuag ati, ac na fydd yn cyfrannu tuag at dalu'r fisa cyflogaeth ar gyfer yr ymgeisydd sy’n cael cynnig y swydd, nac unrhyw ddibynyddion.   

Bydd angen o leiaf 70 pwynt ar unrhyw ddarpar ymgeiswyr sy'n dod i weithio i Brifysgol Aberystwyth o dan y Llwybr Gweithiwr Medrus. Cyfrifir y pwyntiau fel a ganlyn:   

 

System Bwyntiau y Llwybr Gweithiwr Medrus

Pwyntiau

A’i bodlonwyd? (Do / Naddo)

Meini Prawf Gorfodol (50 pwynt)   

Cynnig swydd gan noddwr trwyddedig yn y Deyrnas Unedig

20 pwynt

Do

 

Swydd yn uwch nag isafswm lefel y sgiliau sydd eu hangen i gael nawdd

20 pwynt

Do

 

Dylai’r ymgeisydd a benodir fedru’r Saesneg i safon briodol*

10 pwynt

Do

 

 

 

Cyfanswm = 50 pwynt

Meini Prawf y gellir eu cyfnewid (yn dibynnu ar yr ymgeisydd a benodir) 

Mae'r cyflog yn uwch na’r trothwy isaf

20 pwynt

 

 

Mae gan yr ymgeisydd PhD mewn pwnc sy'n berthnasol i'r swydd  

10 pwynt

 

 

Mae gan yr ymgeisydd PhD mewn pwnc STEM sy'n berthnasol i'r swydd

20 pwynt

 

 

Mae'r swydd a hysbysebwyd ar y Rhestr o Alwedigaethau lle mae Prinder (SOL) 

20 pwynt

 

 *Diffinnir ‘safon briodol’ fel a ganlyn:   

  • Dinesydd gwlad lle’r Saesneg yw prif iaith y mwyafrif
  • Bod â gradd academaidd a astudiwyd trwy gyfrwng y Saesneg (os yw'n radd dramor, rhaid iddi fod wedi’i dilysu gan NARIC)
  • Cwblhau a phasio prawf iaith Saesneg ar Lefel B1 neu uwch. 

I gael rhagor o wybodaeth, gweler: https://www.gov.uk/skilled-worker-visa