Pennaeth - Adran Y Gyfraith a Throseddeg (5595)

Pennaeth - Adran Y Gyfraith a Throseddeg

Athrofa/Adran
Y Gyfraith a Throseddeg
Graddfa Cyflog
£71,434 - £110,844 y flwyddyn
Math o Gytundeb
Parhaol, Llawn Amser
Oriau Wythnosol
36.5
Fisa Cyflogaeth
Noddedig
Dyddiad Agor
12/05/2025
Dyddiad Cau
08/06/2025
Rhif Cyfeirnod
5595
Dogfennau

Disgrifiad Swydd

Mae gan Brifysgol Aberystwyth, y Coleg Prifysgol cyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru, draddodiad hir ac anrhydeddus o ragoriaeth ym maes dysgu ac ymchwil sy'n arwain y byd, ac mae hanes ein sefydlu yn y 19eg ganrif yn un o'r enghreifftiau gorau o arloesi yn hanes y Gymru fodern. Bellach mae hi’n Brifysgol sydd â chymuned gref o dros 6,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff, ac mae wedi'i henwi fel y brifysgol orau yng Nghymru a Lloegr am brofiad myfyrwyr yng Nghanllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2025. Mae Aberystwyth yn cael ei rhestru'n gyson ymhlith y prifysgolion gorau yn y DU am ansawdd y dysgu a bodlonrwydd myfyrwyr.

Does unman yn debyg i Aberystwyth: does dim un Brifysgol arall sy'n cynnig y cyfuniad unigryw o draddodiad academaidd hirsefydlog, lleoliad hardd eithriadol â golygfeydd ysblennydd dros dref farchnad hanesyddol Aberystwyth ac arfordir Bae Ceredigion, a champws sy'n cyfuno adnoddau o’r radd flaenaf, a hynny i gyd o fewn cyrraedd hawdd i un o'r chwe llyfrgell hawlfraint yng ngwledydd Prydain. Fel sefydliad sydd wedi’i angori mewn ardal rydym yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i'n cymunedau a'n rhanddeiliaid ac yn falch o'n hymrwymiad cymdeithasol a'n cyfraniad sylweddol i'n rhanbarth ac i Gymru.

Gyda chynllun strategol a ffocws newydd, gydag uwch dîm arwain sydd wedi’i adfywio a strwythur academaidd newydd, mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â ni a'n cymuned fywiog. Ein pwrpas yw 'newid bywydau er gwell.' Fel Pennaeth nesaf Adran y Gyfraith a Throseddeg ac aelod gweithgar o Bwyllgor Gwaith Cyfadran y Dyniaethau, byddwch yn dod â gweledigaeth newydd i’r Adran a fydd yn adeiladu ar sail ei phartneriaethau, ei phortffolio a’i hunaniaeth bresennol a byddwch yn datblygu enw da cryf a fydd yn ei dro yn sicrhau twf ac effaith. O bwysigrwydd hanfodol fydd sicrhau bod yr adran yn parhau i ddarparu dysgu ac addysgu o ansawdd uchel ynghyd ag amgylchedd ymchwil bywiog a phrofiad i fyfyrwyr sy'n arwain at ganlyniadau rhagorol.

I wneud cais, bydd gennych enw academaidd ardderchog mewn maes perthnasol ac angerdd gwirioneddol am addysg, ymchwil a phwysigrwydd effaith gymdeithasol ac economaidd Prifysgolion. Byddwch wedi profi eich gallu fel arweinydd a rheolwr academaidd ac yn medru ysgogi, ysbrydoli a chefnogi cydweithwyr i gyflawni gwaith rhagorol. Gydag arddull arwain gynhwysol a chefndir o ysgogi newidiadau effeithiol, byddwch yn dangos tystiolaeth o gyfraniad effeithiol at ddatblygu strategaethau addysgu a dysgu ac at ddatblygu amgylchedd ymchwil adrannol cryf. Yr hyn sy’n bwysig yw y byddwch chi'n dangos ymrwymiad i genhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd y Brifysgol ac yn sicrhau gweithle a phrofiad cynhwysol i fyfyrwyr. Bydd gennych werthfawrogiad o'r Gymraeg, gan weithio mewn amgylchedd gwaith dwyieithog.

Am ragor o wybodaeth am y cyfle eithriadol hwn ewch i https://www.dixonwalter.co.uk/opportunities/aber-head-of-law-criminology/ neu cysylltwch ag Simon Critchley o gwmni Dixon Walter: simon@dixonwalter.co.uk neu ar 07891 842347

Dyddiad cau: Hanner nos ddydd Sul 8 Mehefin 2025