Prif Dechnegydd Theatr (5984)
Prif Dechnegydd Theatr
CY:
Disgrifiad Swydd
Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth
Y rôl
Mae Canolfan Gelfyddydau arobryn Aberystwyth yn dymuno penodi Prif Dechnegydd i ymuno â’i thîm technegol.
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ganolfan gelfyddydau ranbarthol flaenllaw gyda neuadd gyngerdd broffesiynol, theatr, stiwdio, sinema, orielau a gofod gweithdy. ‘Rydym yn cynnig rhaglen brysur ar draws yr holl ffurfiau celf ac yn derbyn gwaith twrio o gwmnïau twrio blaenllaw yn ogystal â chynhyrchu ein sioeau a’n gwyliau proffesiynol ein hunain. Wedi ein lleoli ar ganol campws Prifysgol Aberystwyth, ‘rydym yn cynnig pecyn deniadol sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol, polisi gweithio hyblyg, 27 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc yn ogystal â dyddiau caeëdig y brifysgol, cefnogaeth i ail-leoli a disgownt i staff ar gyfer cyfleusterau’r gampfa, lletygarwch, a mannau adwerthu. Mae Aberystwyth yn lle gwych i fyw, ac mae’r tîm yng Nghanolfan y Celfyddydau yn ffanstastig i gydweithio â nhw - dewch i ymuno â ni!
‘Rydym yn edrych am weithiwr proffesiynol profiadol yn y diwydiant gyda chefndir cadarn mewn cynhyrchu ac arbenigedd technegol mewn mudiad aml-gelfyddydol. Bydd gennych brofiad o reoli timau technegol a gweithrediadau technegol mewn amrywiaeth eang o gefndiroedd a gweithgareddau. Yn gyfrifol i’r Pennaeth Gwasanaethau Technegol, byddwch yn sicrhau bod digwyddiadau yn y Ganolfan yn cael eu cyflwyno’n effeithiol ac yn effeithlon o safbwynt Gwasanaethau Technegol. Wedi gweithio eisoes mewn canolfan gelfyddydau aml-ddisgyblaethol, bydd gennych brofiad o weithio ar draws ystod eang o ddigwyddiadau. Bydd gennych arbenigedd penodol yn un neu fwy o’r disgyblaethau canlynol: goleuo, sain, rheoli llwyfan neu gyflwyniad digidol, a bydd gennych ddealltwriaeth dda o bob agwedd o gyflwyniad technegol unrhyw ddigwyddiad. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a chefndir cryf mewn adeiladu perthnasau a chydweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr mewn adrannau eraill a mudiadau allanol.
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Pete Lochery at pdl@aber.ac.uk
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
Mae Canolfan Gelfyddydau arobryn Aberystwyth yn ganolfan ranbarthol flaenllaw gyda theatr, neuadd gyngerdd, stiwdio berfformio, sinema, a mannau arddangos a dysgu creadigol niferus. Mae’n cynnig dros 300 o berfformiadau bob blwyddyn ar draws yr holl ffurfiau celfyddydol, ochr yn ochr â rhaglen sinema, arddangosfeydd, gwyliau a digwyddiadau arbennig. ‘Rydym yn adran o Brifysgol Aberystwyth ac fe’n lleolir ar ganol y campws, gyda golygfeydd ysblennydd ar draws Bae Ceredigion.
Mae gofod y theatr wedi cael ei adnewyddu’n dechnegol yn ddiweddar, ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol mewn systemau goleuo a sain ar draws y Ganolfan; mae’r tîm technegol yn ymdrechu i fod ar flaen y gad o ran technoleg cynhyrchu / digwyddiadau byw.
Mae Canolfan y Celfyddydau yn cyflwyno rhaglen helaeth o waith amrywiol, sy'n rhoi cyfle i'r tîm weithio ar lawer o wahanol fathau o berfformiadau a digwyddiadau byw. Cefnogir pob 'sylfaen sgiliau' i'r eithaf, gan annog aelodau'r tîm i adeiladu ar eu cryfderau a dysgu mwy o ddisgyblaethau ym maes cynhyrchu technegol. Mae'r Ganolfan yn adeiladu ar ei gwaith cynhyrchu, o gynyrchiadau mewnol a thwrio i gydweithrediadau a chyd-gynhyrchiadau gyda chwmnïau theatr eraill. Mae'r sioeau haf proffesiynol blynyddol a gynhyrchir gan y Ganolfan wedi cael derbyniad brwd gan y critigyddion gan eu cymharu â safonau cynhyrchu'r West End neu uwch. Credwn fod y gwaith cynhyrchu a wnawn yn bwysig iawn i ddatblygu gwybodaeth y tîm technegol ac mae'n hanfodol wrth roi cyfoeth o brofiad a chefnogaeth i dechnegwyr ar bob lefel.
Mae gan Ganolfan y Celfyddydau raglen brysur ac oherwydd hyn gall gweithio oriau tros ben fod yn ddigwyddiad rheolaidd. Fel adran o Brifysgol Aberystwyth, telir goramser ac oriau anghymdeithasol ar gyfradd fesul awr uwch, yn unol â gweithdrefnau'r Brifysgol. Mae byw yn Aberystwyth yn brofiad gwych, yn enwedig gyda'r cefn gwlad a'r glan môr cyfagos. ‘Rydym yn cydnabod ei bod yn bell o leoedd eraill, felly gellir talu taliad adleoli os ydych chi'n symud i'r ardal i gymryd cyflogaeth gyda Chanolfan y Celfyddydau.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Yn gyfrifol i’r: Pennaeth Gwasanaethau Technegol
Yn gyfrifol am: Oruchwylio gwaith Technegwyr, Cynorthwywyr Technegol, Prentis Technegol
Dyletswyddau penodol yn cynnwys:
Technegol
- I ddarparu cefnogaeth a chyswllt gyda chwmnïau a chleientiaid o fewn y Ganolfan fel rhan o’i rhaglen eang ar draws y ffurfiau celf, gan gynnwys cyfarfod â thimau creadigol ac artistiaid i sefydlu eu hanghenion technegol. Bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau annibynnol ond o fewn paramedrau bras a osodir gan y Pennaeth Gwasanaethau Technegol.
- I gymryd rhan yn natblygiad creadigol a chyflwyniad cynyrchiadau mewnol/twrio’r Ganolfan, a gynigir gennym o’r ochr broffesiynol a chymunedol.
- I sicrhau bod gofynion technegol digwyddiadau’n cael eu bodloni’n broffesiynol, gan drefnu a dosbarthu adnoddau’n briodol.
- I barhau i ddatblygu eich arbenigeddau technegol eich hun (h.y AV, goleuo, rheoli llwyfan) a sicrhau bod eich gwybodaeth wedi’i diweddaru ac yn medru cefnogi tîm a gwaith y Ganolfan yn effeithiol. Fe’ch cefnogir yn hyn o beth gan eich Rheolwr Llinell a fydd yn nodi’r hyfforddiant a’r mentora sydd angen arnoch. ‘Rydym yn arbennig o awyddus i ddatblygu ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio, ac i gefnogi’r tîm i gyflawni nodau Llyfr Gwyrdd y Theatr.
- I sicrhau bod yr holl fannau cynhyrchu ac offer technegol yn cael eu cynnal a’u cadw’n lân ac yn ddiogel.
Gwaith Tîm a Rheoli’r Tîm
- I oruchwylio’r tîm o Dechnegwyr llawn-amser, Cynorthwywyr Technegol, Prentis Technegol a thechnegwyr llawrydd o ddydd i ddydd.
- I sicrhau bod sgiliau’r tîm technegol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ar draws yr holl feysydd ac i oruchwylio ansawdd gwaith y tîm o ddydd i ddydd.
- I weithio’n effeithiol a chydlynu’n rheolaidd gyda staff allweddol ar draws pob rhan o’r Ganolfan i sicrhau effeithiolrwydd y gweithrediadau technegol, ac i gefnogi’ch gilydd.
- I weithio gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Technegol i nodi anghenion ac i drefnu criw llawrydd a staff technegol er mwyn sicrhau y gwireddir anghenion goleuo, clywedol, AV a rheolaeth lwyfan ar gyfer pob perfformiad.
Rheoli Safleoedd ac Offer
- I reoli a chynnal yr holl systemau technegol, gan gynnwys rigiau goleuo, desgiau sain, systemau fideo, offer llwyfannu a rhwydweithiau rigio.
- I sicrhau bod gwasanaethu, profi ac ardystio offer yn rheolaidd, yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, yn cael eu cwblhau.
- I sicrhau bod y tîm yn cynnal archwiliadau dyddiol o'r holl mannau ac offer technegol a sicrhau bod unrhyw lanhau, atgyweirio neu gynnal a chadw sydd ei angen yn cael ei wneud mewn modd amserol.
- I weithredu systemau a gwiriadau i sicrhau bod y lefelau uchaf o wasanaeth yn cael eu cynnal.
Iechyd a Diogelwch
- O dan reolaeth y Pennaeth Gwasanaethau Technegol, ac o fewn protocoliau penodol, i sicrhau bod holl ofynion technegol digwyddiadau perfformio ac unrhyw weithgareddau byw eraill a raglennir gan y Ganolfan yn cael eu gweithredu’n ddiogel ac effeithiol.
- I gyfrannu at ddatblygiad Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau ac Asesiadau Risg.
- I dderbyn a gwirio asesiadau risg ar gyfer cwmnïau ymweliadol ac unrhyw berfformiadau byw a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n ddiogel.
- Fel rhan o’r tîm technegol i sicrhau bod yr holl fannau technegol cefn llwyfan yn rhydd o unrhyw beryglon a all effeithio ar iechyd a diogelwch y tîm technegol, technegwyr a chwmnïau ymweliadol ac unrhyw bersonél awdurdodedig arall sy’n gweithio tu ôl i’r llwyfan.
Rheolaeth Gyllidol
- Clustnodir cyllideb sefydlog ar gyfer gweithgarwch technegol a phob prosiect sydd angen mewnbwn gan y Pennaeth Gwasanaethau Technegol. Bydd y Prif Dechnegydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr i sicrhau bod cyllideb ar gyfer yr holl ddigwyddiadau sydd i ddod, a bod ad-daliadau wedi eu hamlinellu cyn eu cymeradwyo.
- I weithio o fewn protocoliau cyllidol y Brifysgol ac i roi cefnogaeth i’r Pennaeth Gwasanaethau Technegol trwy godi a phrosesu archebion pryniant ac anfonebau.
Unrhyw ddyletswyddau eraill
- I ddirprwyo ar ran y Pennaeth Gwasanaethau Technegol yn ôl yr angen ac fel bo’n addas.
- I weithredu fel wyneb cyhoeddus proffesiynol y Ganolfan, gan gysylltu’n uniongyrchol gyda chwsmeriaid a chleientiaid.
- I ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n addas i’r swydd.
- I fod yn ymroddedig i Bolisi Cyfleoedd Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- I fod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hun trwy ddefnyddio’n effeithiol Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill a ofynnir sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
NODWEDDION PERSONOL
- Rhaid mwynhau gweithio, rheoli a chymell pobl.
- Deinamig, egnïol a brwdfrydig.
- Rhagweithiol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau.
- Doeth, hawdd mynd atoch, pwyllog a diplomatig.
- Hyblyg a dibynadwy o ran gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau yn ôl yr angen.
- Medru addasu i newid.
Mae'r swydd yn heriol yn gorfforol felly mae'n hanfodol bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus lefel briodol o iechyd a ffitrwydd. Gall penodi i'r swydd hon fod yn amodol ar asesiad ffitrwydd boddhaol
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Hanfodol
- Cymhwyster perthnasol yn y diwydiant hyd at safon Lefel-A
- O leiaf 3 blynedd o brofiad mewn amgylchedd celfyddydol technegol proffesiynol
- Arbenigedd penodol mewn dwy neu fwy o’r disgyblaethau canlynol: Goleuo - Eos ac Avolites, Sain, Rheoli Llwyfan, Rigio, Effeithiau Gweledol Awdio, Rhwydweithio a Dante.
- Dealltwriaeth dda o bensaernïaeth a pheirianneg theatr a gwybodaeth fanwl o dechnoleg theatr.
- Gwybodaeth fanwl o reoliadau Iechyd a Diogelwch perthnasol, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i: Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chodi Offer (LOLER); Gweithio ar Uchder; Trydan yn y Gweithle; Rheolaeth Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd (COSHH); ‘Pecyn Chwech’ yr EU; Darpariaeth a Defnydd Offer Amddiffynnol Personol yn y gweithle
- Profiad o oruchwylio tîm a sgiliau rhyngbersonol da, yn galluogi gweithio’n effeithiol fel tîm
- Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaelth ac i fod yn rhagweithiol a blaengar wrth ddatrys problemau.
- Y gallu i weithio o dan bwysau ac i derfynau amser tynn ac i ymdrin â nifer o flaenoriaethau sy’n gwrthdaro
- Profiad o weithio gyda’r cyhoedd yn gyffredinol
- Trwydded yrru lawn a glân
- Cymraeg ar lafar a Chymraeg ysgrifenedig Lefel A1* neu dystiolaeth i ddangos ymrwymiad i ddysgu Cymraeg hyd at y lefel hon.
Dymunol
- Gradd mewn pwnc perthnasol
- Profiad o ddarparu cefnogaeth dechnegol o fewn mudiad aml ffurf gelfyddydol
- Profiad blaenorol o ymarferion cynaliadwy.
- Cymraeg ar lafar a Chymraeg ysgrifenedig Lefel B1* neu uwch
*Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/en/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/
Sut i wneud cais
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Buddion
- Polisi gweithio’n hyblyg
- 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
- Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
- Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
- Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
- Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
- Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
- Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
- Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.
Darllenwch ymlaen
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Fisa Cyflogaeth
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).