Rheolwr Llety Cynorthwyol (Eiddo) (6151)
Rheolwr Llety Cynorthwyol (Eiddo)
Disgrifiad Swydd
Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth
Y rôl
Mae'r tîm Llety (Eiddo) yn gyfrifol am reolaeth weithredol ystâd breswyl y Brifysgol, gan sicrhau bod yr holl lety yn ddiogel, yn cydymffurfio, yn cael ei gynnal yn dda, ac yn darparu amgylchedd byw rhagorol i fyfyrwyr ac ymwelwyr. Mae'r tîm yn ganolog i’r gwaith o sicrhau bod y brifysgol yn bodloni rhwymedigaethau statudol a rheoleiddiol yn unol â chod Ymarfer Llety Prifysgolion y DU, ac mae’n cefnogi amcanion y Brifysgol ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr, enw da, a chynhyrchu incwm.
Bydd y Rheolwr Llety Cynorthwyol (Eiddo) yn atebol i’r Uwch Reolwr Llety (Eiddo) ac yn cynorthwyo’r Uwch Reolwr i oruchwylio ystod o wasanaethau sy'n gysylltiedig ag eiddo a ddarperir gan randdeiliaid mewnol ac allanol. Mae hyn yn cynnwys cynllunio cylch bywyd, gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd ymlaen llaw a gwaith adweithiol, cydymffurfiaeth statudol, gweithgarwch adnewyddu, a gweithio i sicrhau bod y portffolio preswyl yn parhau i fod yn addas i'r diben, yn wydn ac yn gynaliadwy.
Bydd y Rheolwr Llety Cynorthwyol (Eiddo) yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr Ystadau, Rheoli Cyfleusterau, Gwasanaethau i Fyfyrwyr, Swyddfeydd Llety a Chynadledda, a phartneriaid mewnol ac allanol eraill, gan sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir i breswylwyr sy'n byw mewn llety sy'n eiddo i'r brifysgol ac a reolir gan y brifysgol yn cael eu darparu'n effeithlon, yn gyson, ac i safon broffesiynol uchel er mwyn gwneud y mwyaf o brofiad y cwsmer a bodloni ystod o rwymedigaethau cydymffurfio.
Mae rôl y tîm Llety (Eiddo) yn hyn o beth yn hanfodol i gynnal a gwella enw da’r Brifysgol am lety o safon uchel ac mae’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi’r gwaith o ddenu myfyrwyr, cadw myfyrwyr, sicrhau eu lles a’u profiad preswyl cyffredinol.
Mae gan y swydd hon Lefel B2 hanfodol mewn Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig.
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Tom Bates yn tgb@aber.ac.uk.
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Gallai'r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a'i newid i gyd-fynd â newidiadau yn anghenion y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol, ac/neu i ychwanegu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.
Rheoli Eiddo
- Cynorthwyo’r Uwch Reolwr Llety (Eiddo) i sicrhau bod yr ystâd breswyl yn cael ei chynnal i safon uchel gyson, gan ddarparu amgylchedd diogel, sy’n cydymffurfio ac sy’n groesawgar i breswylwyr, yn unol â'r holl ddeddfwriaeth tai, adeiladu a landlordiaid perthnasol, gan gynnwys Cod Ymarfer Llety Prifysgolion y DU.
- Chwarae rhan ganolog wrth oruchwylio cyflwr a pherfformiad y ffabrig adeiladu, y gosodiadau, y ffitiadau, y dodrefn a’r ardaloedd cymunedol, gan weithio ar y cyd ag Ystadau, Cyfleusterau a chydweithwyr sy’n gontractwyr trydydd parti cymeradwy.
- Ar y cyd ag Ystadau a chydweithwyr sy’n gontractwyr trydydd parti cymeradwy, cynorthwyo i fonitro’r rhaglenni amnewid ar ddiwedd cylch oes, y gwaith cynnal a chadw ataliol sydd wedi'i gynllunio (PPM), a’r amserlenni cydymffurfiaeth statudol i sicrhau bod asedau'n cael eu cynnal yn effeithiol ac yn gynaliadwy.
- Chwarae rhan weithredol wrth oruchwylio unrhyw brosiectau adnewyddu, prosiectau gwella a mân waith cyfalaf, yn enwedig yn ystod cyfnodau gwyliau, gan sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni ar amser, o fewn y gyllideb, ac i safonau ansawdd y cytunwyd arnynt.
- Bod yn fan cyswllt ar gyfer materion sy'n gysylltiedig ag eiddo, cydlynu a chyfathrebu â phreswylwyr, cydweithwyr y Brifysgol, a rhanddeiliaid allanol ynghylch gwaith sydd wedi’i gynllunio o flaen llaw a gwaith adweithiol, i leihau aflonyddwch a rheoli disgwyliadau.
- Nodi risgiau, tueddiadau a chyfleoedd sy'n ymwneud â chyflwr a pherfformiad eiddo, gan wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau parhaus a buddsoddiad yn y dyfodol.
- Gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Swyddfa Llety a Chynadledda, ynghyd â darparwyr gwasanaethau mewnol (sef Ystadau a Chyfleusterau) i gefnogi gweithrediad y cyfnod cynadledda dros yr haf.
Rheoli Pobl
- Hyrwyddo diwylliant gwaith cadarnhaol, cynhwysol a phroffesiynol sy'n gweld gwerth mewn gwaith tîm, cydweithredu, lles, a gwelliant parhaus.
- O bryd i'w gilydd, rhoi cyfarwyddyd i gydweithwyr yn yr adrannau gwasanaeth a chontractwyr trydydd parti.
- Bod yn fan cyswllt allweddol o ddydd i ddydd i ddarparwyr gwasanaethau mewnol ac allanol, gan weithio'n effeithiol i reoli perthynas â rhanddeiliaid.
Rheolaeth Ariannol
- Cyfrannu at sefydlu, rheoli a monitro’r gyllideb Llety i sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau.
- Caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn unol â Rheoliadau Ariannol y Brifysgol a pholisïau Caffael, gan sicrhau tryloywder a gwerth am arian.
- Cynorthwyo â’r gwaith monitro ac adolygu perfformiad contractwyr yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol a chytundebau lefel gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd Amgylcheddol
- Cynorthwyo’r Uwch Reolwr Llety (Eiddo) i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth iechyd, diogelwch a diogelwch tân ar draws yr ystâd breswyl
- Cynorthwyo’r Uwch Reolwr Llety (Eiddo) i oruchwylio’r gwaith o gwblhau asesiadau risg, asesiadau risg tân, archwiliadau, arolygiadau, a phrofion statudol, gan sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu dilyn a'u cwblhau o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Cadw cofnodion cywir y gellir eu harchwilio o ran cydymffurfiaeth, digwyddiadau, a chamau a gymerwyd i adfer sefyllfaoedd.
- Hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch cryf ymhlith staff, contractwyr a phreswylwyr.
- Cynorthwyo’r gwaith o gyflawni amcanion cynaliadwyedd amgylcheddol y Brifysgol, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni, lleihau gwastraff, a rheoli adnoddau mewn modd cyfrifol.
Rheoli Gwybodaeth a Systemau
- Sicrhau bod y cofnodion electronig a phapur sy'n ymwneud â rheoli eiddo, cydymffurfio, prosiectau a chynllunio gweithredol, yn cael eu cynnal a’u cadw yn gywir, yn amserol ac yn ddiogel.
- Defnyddio systemau TG perthnasol (e.e. Kinetics, AStRA, ABW, APEX, StarRez, ISARR, Planet FM, QFM) i wella ansawdd data, cofnodi a darparu gwasanaethau.
- Cynorthwyo’r Uwch Reolwr Llety (Eiddo) i gynhyrchu a dadansoddi gwybodaeth reoli er mwyn cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau, monitro perfformiad, a gwella’n barhaus.
- Sicrhau bod gofynion diogelu data a llywodraethu gwybodaeth yn cael eu cadw bob amser.
Cynllunio, Trefnu a Pharodrwydd Gweithredol
- Cynorthwyo â’r cynllunio gweithredol tymor byr a thymor hir ar gyfer yr ystâd breswyl, gan sicrhau bod gweithgareddau sy’n ymwneud ag eiddo yn cyd-fynd â'r calendr academaidd a blaenoriaethau busnes.
- Cynorthwyo ac arwain ar wahanol agweddau ar y gwaith o baratoi’r eiddo ar gyfer digwyddiadau mawr fel y Penwythnos Croeso, Diwrnodau Agored, a Graddio, yn ogystal â’r pontio rhwng busnes yn ystod y tymor a busnes yn ystod gwyliau.
- Cyfrannu at brosesau cynllunio yn ymwneud ag ymateb i argyfwng, parhad busnes, a meithrin gwytnwch, gan sicrhau parodrwydd a chydlynu effeithiol os oes digwyddiad neu achos o darfu.
- Gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n ddi-dor a bod y profiad preswyl yn un cadarnhaol.
Dyletswyddau Eraill
Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.
Mynd ati’n rhagweithiol i gefnogi’r rhaglen Bywyd Preswyl i adeiladu cymunedau cynhwysol a meithrin lles myfyrwyr, gan weithio'n agos gyda Gwasanaethau i Fyfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr.
Mynd ati’n rhagweithiol i feithrin cyswllt â chymdeithasau a chydweithwyr yn y sector (e.e. ASRA, CUBO a rhwydwaith Prifysgolion y DU) er mwyn gallu manteisio ar arferion gorau a rhwydwaith ehangach i gefnogi cyfleoedd dysgu.
Cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni eraill y brifysgol yn unol â chyfarwyddiadau, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n gymesur â'r rôl, fel y'u pennir i chi gan y rheolwr llinell.
Dangos hyblygrwydd trwy gynorthwyo cydweithwyr mewn cyfnodau pan fo’r llwyth gwaith yn drwm, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau allweddol y brifysgol megis diwrnodau agored a seremonïau graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau.
Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith.
Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol. Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi perthnasol er mwyn datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd, gan fynd ati’n weithredol i hybu iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion a chyfranogiad cyfrifol.
Datblygu amserlenni gwaith tymor hir a byrdymor i ddiwallu anghenion y busnes.
Helpu i drefnu a bod yn rhan o’r rota dyletswydd ar alwad y tu allan i oriau swyddfa yn unol â Pholisi Parod i Weithio'r Brifysgol (https://www.aber.ac.uk/cy/hr/info-staff/all/policy-and-procedure/standby/).
Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon.
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Hanfodol
- Addysg ar lefel gradd, neu’n meddu ar wybodaeth a phrofiad cyfwerth mewn rheoli gwasanaethau yn ymwneud ag eiddo, llety neu wasanaethau tebyg sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
- Gwybodaeth a/neu’r gallu i reoli cydymffurfiaeth â deddfwriaeth tai, Cod Ymarfer Llety Prifysgolion y DU a rheoliadau'r Brifysgol.
- Dealltwriaeth ragorol o iechyd a diogelwch, diogelu, a gofal cwsmeriaid mewn lleoliadau preswyl neu mewn sefyllfaoedd tebyg.
- Y gallu i weithio'n hyblyg ac yn effeithiol yn ystod adegau prysur, â’r gallu i reoli a delio â sefyllfaoedd heriol.
- Sgiliau trafod a negodi cryf, dawn wrth ymdrin â phobl a'r gallu i ddylanwadu ar eraill.
- Hyfedredd TG, gan gynnwys gallu gweithio gyda systemau archebu, RhPC, neu systemau rheoli cyfleusterau.
- Agwedd ragweithiol, drefnus tuag at heriau gweithredol gan ganolbwyntio ar atebion.
- Moeseg sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid a phobl, gyda sgiliau amlwg wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid a phrofiad i ymwelwyr.
- Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel B2.
Manteisiol
- Profiad o reoli llety mewn Addysg Uwch.
- Trwydded yrru ddilys gyflawn neu'r hawl gyfatebol i yrru yn y DU
- Gwybodaeth am y Cod Ymarfer Prifysgolion yn y DU neu safonau llety tebyg.
- Gwybodaeth am systemau meddalwedd llety (e.e., StarRez).
- Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig Lefel C1.
*Cewch ragor o wybodaeth am lefelau'r iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/
Sut i wneud cais
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Buddion
- Polisi gweithio’n hyblyg
- Gweithio hybrid
- 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
- Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
- Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
- Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
- Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
- Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
- Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
- Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.
Darllenwch ymlaen
Yn gyffredinol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi gweithio hybrid, gan ganiatáu cymysgedd o weithio yn y swyddfa a gweithio o bell ar gyfer rolau addas i wella hyblygrwydd a chynhyrchiant. Mae disgrifiadau swyddi fel arfer yn manylu ar leoliad gwaith cynradd ochr yn ochr â chyfleoedd ar gyfer gwaith hyblyg, o bell, neu gartref, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth a chymeradwyaeth y rheolwr.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Fisa Cyflogaeth
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).