Technegydd Cynorthwyol (5972)
Technegydd Cynorthwyol
Disgrifiad Swydd
Y rôl
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Sut i wneud cais
Buddion
Fisa Cyflogaeth
Y rôl
Mae cyfle wedi codi am Dechnegydd Cynorthwyol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yn lleoliad o bwysigrwydd rhanbarthol, yn cynnwys theatr, neuadd gyngerdd, stiwdio berfformio, sinema a gofod sylweddol ar gyfer arddangosfeydd a gweithdai dysgu creadigol. Mae’n cynnig dros 300 o berfformiadau’n flynyddol ar draws pob ffurf gelfyddyd, ochr yn ochr â rhaglen o sinema, arddangosfeydd, gwyliau a digwyddiadau arbennig.
Bydd y Technegydd Cynorthwyol yn gweithio o dan oruchwyliaeth y Technegydd Uwch neu’r Technegydd o ddydd i ddydd (fel bo’n addas) i sicrhau bod digwyddiadau yn y Ganolfan yn cael eu cyflawni yn effeithiol ac yn hwylus.
Bydd gennych brofiad o weithio o fewn y diwydiant a byddwch yn sefydlu cefndir
yn y maes cynhyrchu a thechnegol. Yn y rôl, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i sicrhau bod yr holl ddigwyddiadau artistig a masnachol a gynhelir yn y Ganolfan yn derbyn cefnogaeth dechnegol gyson o safon uchel. Yn ddelfrydol, byddwch wedi gweithio mewn canolfan gelfyddydau aml-ddisgyblaethol neu amgylchedd technegol perthnasol. Bydd gennych brofiad gydag un neu fwy o’r disgyblaethau hyn: goleuo, sain, crefft lwyfan.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a hanes da o adeiladau perthnasau cryf a gweithio gyda chydweithwyr o adrannau eraill a mudiadau allanol.
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Pete Lochery ar pdl@aber.ac.uk
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Technegol
- O dan arweiniad, i ddarparu cefnogaeth benodol i gwmnïau o fewn y Ganolfan, yn cynnwys cyfarfod â thimau creadigol ac artistiaid i sefydlu eu hangehnion technegol. Bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau annibynnol o bryd i’w gilydd ond o fewn paramedrau bras a osodir gan y Pennaeth Gwasanaethau Technegol.
- I ymateb i ofynion technegol unrhyw ddigwyddiad sy’n defnyddio cyfleusterau’r Ganolfan ac i gymryd rôl ragweithiol wrth sicrhau llwyddiant unrhyw ddigwyddiadau y mae deiliad y rôl wedi'i neilltuo iddynt.
- I ddatblygu arbenigeddau technegol yn barhaus (e.e. adeiladu setiau a chrefft lwyfan, AV, goleuo, sain) i alluogi gwaith y tîm a darpariaeth dechnegol y Ganolfan o dan arweiniad y Rheolwr Technegol.
- I gyflawni’n gorfforol gofynion technegol unrhyw ddigwyddiadau fel rhan o wasanaethau’r tîm technegol ar gyfer Digwyddiadau Ymweliadol.
- Mewn cydweithrediad ag aelodau eraill o’r Tîm Technegol, i sicrhau bod y gofynion technegol ar gyfer digwyddiadau yn cael eu bodloni'n briodol ac i fod wrth law i gyflawni'r disgwyliadau a'r briff technegol y cytunwyd arnynt.
Cynhaliaeth Gyffredinol
- I gynnal yr holl ardaloedd cynhyrchu ac offer gan gynnwys rhannau penodol o'r adeilad.
- I sicrhau bod yr holl fannau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer adeiladu technegol neu ddyletswyddau cysylltiedig eraill yn aros yn lân ac yn ddiogel yn unol â'r protocolau a sefydlir gan y Rheolwr Technegol.
Iechyd a Diogelwch
- O dan reolaeth y Pennaeth Gwasanaethau Technegol ac o fewn protocolau penodedig a sefydlwyd trwy strwythur rheoli Iechyd a Diogelwch y Ganolfan, i gyflawni dyletswyddau fel bo’n addas i sicrhau eich diogelwch eich hun a phobl eraill yr ydych yn gweithio â nhw.
- Bydd y technegydd yn codi ac yn cario eitemau trymion yn rheolaidd.
- Bydd angen ar ddeiliad y rôl hefyd wisgo dillad amddiffynnol ychwanegol yn dibynnu ar y gwaith sy’n cael ei wneud. Gall hyn gynnwys eitemau fel masgiau ac efallai gorchudd i’r llygaid yn dibynnu ar y deunyddiau a ddefnyddir.
Eraill
- Ni fydd gan ddeiliad y swydd awdurdod gwariant uniongyrchol ond bydd yn gweithio gydag aelodau o'r tîm sydd ag awdurdodau o'r fath.
- Bydd deiliad y swydd o bryd i’w gilydd yn goruchwylio gwaith prentisiaid a thechnegwyr achlysurol.
- I weithredu fel wyneb cyhoeddus proffesiynol y Ganolfan, yn cysylltu’n uniongyrchol gyda chwsmeriaid a chleientiaid.
- I gyfrannu at ddarpariaeth dechnegol y Brifysgol yn fwy eang yn ôl galw anghenion busnes ac o fewn amserlen a reolir.
- I fod yn ymroddedig i Bolisi Cyfleoedd Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- I fod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hun a’ch staff trwy ddefnyddio’n effeithiol Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol.
- Unrhyw ddyleswydddau rhesymol eraill a ofynnir sy’n gymesur â gradd y rôl.
Mae gwaith corfforol trwm yn rhan o’r swydd hon, felly mae'n hanfodol bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus lefel addas o iechyd a ffitrwydd. Gall penodiad i'r swydd fod yn amodol ar asesiad ffitrwydd boddhaol.
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol
Hanfodol
- Dyfarniad Efydd ABTT a Phrentisiaeth Dechnegol Lefel 3 neu o leiaf dwy flynedd o brofiad mewn amgylchedd celfyddydol addas.
- leiaf dwy flynedd o brofiad fel technegydd o fewn amgylchedd sy’n ymwneud â pherfformiad byw a/neu digwyddiadau byw.
- Profiad o weithio gydag amrediad eang o gleientiaid a rhanddeiliaid, yn fewnol ac yn allanol.
- Gwybodaeth wedi’i diweddaru o dechnoleg theatr a lleoliadau eraill.
- Gwybodaeth fanwl am reoliadau Iechyd a Diogelwch perthnasol, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i: Gweithrediadau Codi a Rheoliadau Codi Offer (LOLER); Gweithio ar Uchder; Trydan yn y Gweithle; Rheolaeth Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd (COSHH;) Darpariaeth a Defnydd Offer yn y Gweithle; Offer Amddiffynnol Personol.
- Sgiliau rhyngbersonol da, yn galluogi gweithio’n effeithiol o fewn tîm.
- Sgiliau cyfathrebu cryf, ar lafar ac mewn ysgrifen.
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaelth ac i fod yn rhagweithiol a blaengar wrth ddatrys problemau.
- Y gallu i weithio o dan bwysau ac i derfynau amser tynn ac i ymdrin â nifer o flaenoriaethau sy’n gwrthdaro.
- Profiad o weithio gyda’r cyhoedd yn gyffredinol.
- Cymraeg ar lafar a Chymraeg ysgrifenedig Lefel A1* neu dystiolaeth i ddangos ymrwymiad i ddysgu Cymraeg hyd at y lefel hon.
Dymunol
- Gradd mewn pwnc perthnasol.
- Cymraeg ar lafar a Chymraeg ysgrifenedig Lefel B1* neu dystiolaeth i ddangos ymrwymiad i ddysgu Cymraeg hyd at y lefel hon.
*Gellir gweld manylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/en/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/
Sut i wneud cais
I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Buddion
- Polisi gweithio’n hyblyg
- 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
- Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
- Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
- Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
- Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
- Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
- Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
- Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.
Darllenwch ymlaen
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.
Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.
Fisa Cyflogaeth
O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).