CY: AberWorks (3336)
CY: AberWorks
Disgrifiad Swydd
GwaithAber
Bwriad GwaithAber yw helpu myfyrwyr i ennill profiad gwaith ymarferol yn y Brifysgol. Nod allweddol y cynllun yw gwella eich sgiliau a’ch hunanymwybyddiaeth er mwyn datblygu eich cyflogadwyedd.
Pa fath o swyddi sydd ar gael?
Mae GwaithAber yn gyfle i fyfyrwyr ennill arian wrth ddysgu. Ceir cyfleoedd gwaith mewn amryw o adrannau o Arlwyo, gwaith gweinyddol, swyddogaethau Llysgenhadon a mwy.
Os bydd gwaith ar gael yn ystod tymor y Brifysgol, efallai y byddwch yn dewis gweithio hyd at 15 awr yr wythnos, gyda’r posibilrwydd am ragor o oriau gwaith yn ystod y gwyliau. Bydd y cyflog yn ddibynnol ar y swydd. Gall lleoliad y gwaith fod ar unrhyw un o gampysau’r Brifysgol, gan gynnwys yr Hen Goleg. Gallwch ddewis derbyn gwaith sy’n cyd-fynd â’ch amserlen.